麻豆官网首页入口

App newydd gyda'r holl wybodaeth i Eisteddfodwyr yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
App yr UrddFfynhonnell y llun, Itunes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd yn cynnwys holl wyboaeth am yr Eisteddfod

Fe fydd gan Eisteddfodwyr gyfle i ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddara' i gael holl wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd.

Ymhen wythnos fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn cychwyn yn Eryri ar dir Glynllifon.

Wedi nawdd gan gwmni Telesgop, un o brif bartneriaid yr Eisteddfod, mae'r Urdd yn lansio eu App cyntaf, Ap Urdd.

Bydd modd i Eisteddfodwyr allu sgrolio dros fap y Maes ar eu ff么n, gweld amserlen y Pafiliwn a rhestr o ddigwyddiadau'r Maes a gwybodaeth ddefnyddiol arall hefyd.

Bydd lluniau'r wythnos yn cael eu huwchlwytho ar yr App yn ddyddiol, felly hyd yn oes os nad oes modd i chi fod yng Nglynllifon bob dydd bydd modd i chi gael blas yr 诺yl yng nghledr eich llaw!

Mae'r App hefyd yn caniat谩u i chi gofrestru i dderbyn gwybodaeth am Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013.

'Bys ar y pwls'

Telesgop sydd hefyd yn gyfrifol am Urdd Ti Fi, sef sianel deledu unigryw ar-lein sydd ar gael i holl aelodau'r Urdd ar www.urdd.org.

Bydd yr holl wybodaeth hefyd yn cael ei ddolennu i dudalennau Facebook a Twitter yr Urdd.

"Mae'r Urdd yn fudiad sydd 芒'i fys ar y pwls o ran anghenion ieuenctid heddiw ac rydym yn falch iawn o allu rhannu'r weledigaeth honno drwy gynnig y gwasanaeth Urdd Ti Fi ac am y tro cyntaf y rhaglen Ap Urdd ar gyfer ffonau symudol," meddai Euros Jones-Evans, Cyfarwyddwr Masnach Telesgop.

"Y gobaith yw y bydd yr adnodd yma yn ffordd o ehangu'r profiad Eisteddfodol i blant a phobl ifanc a'r gobaith yw gallu datblygu ar hyn o flwyddyn i flwyddyn."

Dywedodd Aled Si么n, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, fod y datblygiad technolegol diweddara yn yr Eisteddfod, ac eleni, ff么n symudol ydi'r ategolyn hanfodol ar y Maes!

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Telesgop am noddi a pharatoi'r App, ac yn gobeithio y bydd yr ymwelwyr yn ei weld yn ddefnyddiol wrth chwilio am wybodaeth am beth sydd 'mlaen pryd, ac y bydd yn eu cynorthwyo i wneud y gorau o'u diwrnod yn yr Eisteddfod."

Mae'r Ap Urdd yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPod ac ar gael am ddim drwy iTunes.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol