Cywion Gweilch-y-pysgod yn deor yn Nyffryn Dyfi

Ffynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust

Mae cywion Gweilch wedi cael eu geni yn Nyffryn Dyfi am yr ail flwyddyn yn olynol.

Fe gafodd y cyw cyntaf ei eni ar dir cynllun gweilch-y-pysgod Dyfi am 9.38am ar Fai 28 ac fe gafodd yr ail gyw ei eni am 6.30am y diwrnod wedyn.

Mae'r ddau gyw wedi bod yn bwyta brithyll m么r a disgwylir i drydydd cyw gael ei eni maes o law.

Yn gynharach ym mis Mai cafodd cywion eu deor yn safle'r RSPB yng Nglaslyn yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd warden cynllun Gweilch-y-pysgod Dyffryn Dyfi, Emyr Evans, ei fod wedi sylwi craciau bach yn ymestyn ar hyd yr wy cyntaf yng nghanol mis Ebrill.

Ychwanegodd Mr Evans: "Erbyn i'r fflam Olympaidd fynd heibio gwarchodfa Cors Dyfi roedd y twll bach yn yr wy ac ar 么l hynny aeth popeth yn wallgo'."

Monty a Nora

Roedd patrwm y genedigaethau yn debyg i enedigaeth tri chyw yng Nghors Dyfi'r llynedd.

Y gred yw mai'r cywion hyn oedd y rhai cyntaf i gael eu magu ar afon Dyfi er 1604.

Fe gafodd y cyw cyntaf ei eni yng Nghors Dyfi ar Fehefin 5, 2011, a'r ail y diwrnod canlynol.

Roedd tad y cywion, Monty, wedi methu denu cymar am y ddwy flynedd ers iddo ymgartrefu mewn nyth 50 troedfedd o uchder yng ngwarchodfa Cors Dyfi, cartref Prosiect Gweilch y Dyfi.

Ond y llynedd fe ddaeth cymar i'r nyth ddeuddydd wedi i Monty gyrraedd, ac fe gafodd yr enw Nora.

Cafodd poblogaeth y gweilch ym Mhrydain ei ddifa'n llwyr yn 1916.

Yn 1954 fe gafwyd rhaglen i geisio magu'r aderyn unwaith eto.

Erbyn hyn mae tua 200 o barau ym Mhrydain, yn bennaf yn Yr Alban.