Un cyw gwalch wedi marw yn Nyffryn Dyfi

Ffynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust

Mae un o'r tri cyw Gwalch y Pysgod a wnaeth ddeor yn Nyffryn Dyfi wedi marw.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i gywion ddeor yno.

Fe gafodd y cyw cyntaf ei eni ar dir cynllun Gweilch-y-Pysgod Dyfi am 9.38am ar Fai 28 ac fe gafodd yr ail gyw ei eni am 6.30am y diwrnod wedyn.

Fe gafwyd trydydd cyw ddydd Iau ond bu farw'r un wnaeth ddeor nos Lun.

Yn 么l swyddogion mae'n amheus a fydd y ddau arall yn goroesi.

Yn gynharach ym mis Mai cafodd cywion eu deor yn safle'r RSPB yng Nglaslyn yng ngogledd Cymru.

Dywedodd warden cynllun Gweilch-y-pysgod Dyffryn Dyfi, Emyr Evans, ei fod wedi sylwi ar graciau bach yn ymestyn ar hyd yr wy cyntaf yng nghanol mis Ebrill.

"Erbyn i'r Fflam Olympaidd fynd heibio gwarchodfa Cors Dyfi roedd y twll bach yn yr wy ac ar 么l hynny aeth popeth yn wallgo'."

Roedd patrwm y genedigaethau yn debyg i enedigaeth tri chyw yng Nghors Dyfi'r llynedd.

Y gred yw mai'r cywion hyn oedd y rhai cyntaf i gael eu magu ar afon Dyfi er 1604.