麻豆官网首页入口

Dwy yn ennill gwobrau celf

  • Cyhoeddwyd
Nia Wyn WilliamsFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nia am barhau a gwath celf yn y brifysgol

Cafodd y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ei hennill gan ddisgybl sy'n astudio Lefel A tra bod cyn enillydd y Fedal wedi ennill Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg yr Eisteddfod.

Mae'r Fedal yn cael ei chyflwyno am yr eitem orau yn yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg o dan 18 oed.

Mae Nia Wyn Williams o Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn yn astudio Lefel A mewn Celf a Dylunio, Tecstilau ac Addysg Grefyddol.

Mae ganddi ddiddordeb mewn bob mathau o waith celf a ffasiwn greadigol ac yn hoffi arbrofi gyda gwahanol dechnegau a defnyddiau a gan fod ganddi ddiddordeb mewn Celf a Tecstilau ac yn hoffi cyfuno'r ddau yn ei gwaith creadigol.

"Rwyf yn ffodus iawn o gael cefnogaeth a chymorth fy athrawon sef Mrs Anwen Williams a Mrs Eryl Griffiths yn yr ysgol," meddai Nia.

Ysbrydoliaeth

"Yn ystod y gaeaf roeddwn yn ffodus iawn o fynychu dosbarthiadau nos yn Oriel Conwy lle cefais y fraint o gael gwersi ac arweiniad gan arlunwyr proffesiynol fel Tim Pugh, Luned Rhys Parri, Meirion Ginsberg, Nesta Pritchard ac Angela Evans.

"Byddaf yn hoff o ymweld ag arddangosfeydd ac orielau lleol er mwyn cael ysbrydoliaeth a chael fy ysgogi i gael syniadau newydd.

"Nid wyf yn sicr pa elfen o waith Celf rwyf am ganolbwyntio arno ar hyn o bryd ond edrychaf ymlaen at wneud Diploma mewn Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor am flwyddyn cyn mynd i Brifysgol i ddilyn cwrs gradd.

"Mae ennill Y Fedal Gelf yn fraint ac anrhydedd i mi ac rwyf yn ddiolchgar iawn i Eisteddfod yr Urdd am gydnabod fy ngwaith."

Rhoddir y Fedal Gelf eleni gan Goleg Menai.

Ysgoloriaeth

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Judith yn astudio yng Nghaergrawnt erbyn hyn

Ond cyn enillydd y Fedal, Judith Musker Turner o Geredigion sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod Eryri.

Mae hi'n astudio'r Clasuron ym mhrifysgol Caergrawnt.

Dwy flynedd yn 么l, enillodd Judith y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010.

Fe wnaeth ei llwyddiant ei hannog i gyfuno ei diddordebau yn y celfyddydau creadigol ac astudiaeth academaidd ac mae ennill yr ysgoloriaeth yn mynd i'w galluogi i ddatblygu ei gwaith creadigol a gweithio tuag at yrfa mewn tecstilau.

Mae'n cymryd ei hysbrydoliaeth o'r cysylltiadau a'r patrymau mewn diwylliannau Ewropeaidd, a'r berthynas rhwng elfennau creadigol gwahanol. Dechreuodd drwy archwilio'r cysylltiadau rhwng iaith, pensaern茂aeth, ffasiwn, crefydd, lleoliad a chelf, ac yn awr mae'n datblygu'r syniadau hyn fel rhan o'i chwrs drwy ddarllen ac astudio testunau fel Poetics Aristotle, Pro Archia Cicero a De Architectura Vitruvius.

"Dwi'n ystyried bod yn arlunydd, neu rywun sy'n gweithio gyda dillad hanesyddol; ond y peth pwysicaf i mi yw mynegiant creadigol," meddai.

Mwy o hyfforddiant

"Mae astudio yng Nghaergrawnt yn gyfle anhygoel, ac mae'r adnoddau academaidd sydd ar gael yno yn wych; ond mae'n anodd cael amser i barhau gyda gwaith creadigol.

"Dwi'n cymryd pob cyfle i ddefnyddio fy sgiliau ymarferol, e.e. modelu mewn erthygl ffasiwn ar gyfer cylchgrawn i fyfyrwyr, cyflwyno fy ngwaith mewn sioe ffasiwn ar gyfer Wythnos y Celfyddydau Coleg y Freninesau, Caergrawnt, a bod yn gynllunydd gwisg ar gyfer cynhyrchiad cymdeithas ddrama Queens' BATS o Caligula ym mis Mehefin."

Mae Judith yn bwriadu defnyddio'r Ysgoloriaeth i dalu am fwy o hyfforddiant ar gyfer datblygu ei sgiliau technegol.

Mae'r London College of Fashion yn rhedeg amrywiaeth o gyrsiau fel torri patrymau, teilwriaeth couture, corsetry, a thechnegau gwn茂o proffesiynol i enwi ond ychydig.

Mae'n ystyried ennill yr Ysgoloriaeth yn anrhydedd fawr, ac mae wedi rhoi hyder iddi yn ei gwaith.

Drwy garedigrwydd Dr Dewi Davies a'r teulu y mae'r Urdd yn gallu cyflwyno'r ysgoloriaeth sy'n werth 拢2,000 am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18 a 25 oed.