麻豆官网首页入口

Pennaeth bwrdd iechyd i gwrdd 芒 theulu dyn wedi beirniadaeth

  • Cyhoeddwyd
David JosephFfynhonnell y llun, Picture from daughter Rowena Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw David Joseph rai misoedd ar 么l gadael yr ysbyty lle cafodd drawiad ar ei galon

Mae gweddw a merched dyn oedrannus yn cyfarfod 芒 phrif weithredwr bwrdd iechyd ddydd Gwener ar 么l i ombwdsmon feirniadu'r bwrdd am driniaeth a roddwyd.

Nid oedd staff yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, wedi cofnodi manylion pwysig am gyflwr iechyd David Joseph, 80 oed, yn benodol manylion am lefel y siwgr yn ei waed gan ei fod yn diodde' o glefyd y siwgr.

Bu farw rai misoedd ar 么l gadael yr ysbyty, ond cafodd drawiad ar ei galon yn ystod ei gyfnod yno.

Ar y pryd, roedd yr ysbyty dan ofal Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda cyn iddo droi yn Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn Hydref 2009.

Mae ei deulu yn cwrdd 芒 phrif weithredwr y bwrdd, Trevor Purt, ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd eu "bod yn derbyn yn llwyr ganfyddiadau ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru."

拢1,700

Bydd y teulu hefyd yn cyflwyno siec am 拢1,700 a gafwyd mewn iawndal gan y bwrdd iechyd i elusen Diabetes UK Cymru.

Dywedodd ei weddw, Mavis Joseph, 87 oed o Aberaeron wrth y 麻豆官网首页入口: "Ry' ni eisiau sicrhau bod triniaeth clefyd y siwgr yn cwrdd 芒'r safonau, ond nid dyna'r achos i fy ng诺r.

"Mae clefyd y siwgr yn glefyd cyffredin ac mae'n dod yn fwyfwy cyffredin.

"Dwi ddim yn deall sut y gallai'r lefel siwgr yn ei waed fod wedi mynd i lawr i 1.3 mewn ward ysbyty. Chwech neu saith sy'n normal.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Mr Joseph driniaeth yn Ysbyty Bronglais ym mis Rhagfyr 2008

"Roedd mor ddiangen. Aeth e ddim i mewn oherwydd clefyd y siwgr, aeth e mewn gyda haint".

Cafodd Mr Joseph - a gafodd ei adnabod yn adroddiad ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall fel Mr T - ei gludo i Ysbyty Bronglais ym mis Rhagfyr 2008.

Roedd ei wraig a'i ferch yno gydag ef.

Oherwydd clefyd y siwgr, roedd ymgynghorydd yno wedi gorchymyn y dylid gwirio'r lefel siwgr yn ei waed bob pedair awr, a rhoi inswlin iddo fel bod angen.

Ond wedi ychydig dros ddiwrnod yn yr ysbyty, roedd y lefel wedi mynd yn rhy isel.

Fe wnaeth gyfogi ac fe arweiniodd hynny ato'n cael trawiad ar y galon.

Lefel siwgr

Daeth cwyn i swyddfa'r ombwdsmon gan ferch Mr Joseph, Rowena Jones, ac fe gadarnhawyd y gwyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Peter Tyndall yn cytuno bod tystiolaeth fod nyrsys wedi newid cofnodion er mwyn cuddio gwallau

O hynny ymlaen roedd angen gofal 24 awr arno.

Ym mis Ebrill 2009, cafodd ei drosglwyddo i gartref gofal, ond bu farw yno ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.

Yn ei chwyn i'r ombwdsmon, dywedodd Ms Jones fod tystiolaeth bod nyrsys wedi newid cofnodion am lefelau siwgr ei thad er mwyn cuddio methiannau - cytunodd Mr Tyndall.

Wedi argymhelliad yr ombwdsmon, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda dalu 拢1,700 i deulu Mr Joseph fel cydnabyddiaeth o'r ansicrwydd yngl欧n 芒 sut y gallai'r methiannau fod wedi effeithio ar ei iechyd.

Fe wnaeth Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd ymddiheuro mewn llythyr at y teulu am yr anghyfiawnder a gofnodwyd yn yr adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd:

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn derbyn yn llwyr ganfyddiadau ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar adeg y cyhoeddiad.

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried o ddifrif unrhyw honiadau o fynd yn groes i safonau proffesiynol a bydd bob amser yn ymchwilio'n llawn iddynt.

"Canfuwyd gwendidau clir ac mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithredu pob un o'r argymhellion a wnaed ac mae'n parhau i drafod 芒'r teulu.

"Ers yr achos hwn yn 2008/9 mae pob ymdrech wedi'i wneud i weithredu egwyddorion Bod yn Agored ac mae nifer sylweddol o staff wedi cael hyfforddiant ychwanegol, a'u hatgoffa o'u cyfrifoldebau o safbwynt cadw a rheoli cofnodion."

Dywedodd y llefarydd nad oedd yn gallu gwneud sylw pan ofynwyd a oedd aelodau o'r staff wedi eu disgyblu yn dilyn adroddiad yr Ombwdsmon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol