麻豆官网首页入口

Diwrnod stormus ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhybuddion am lifogydd wedi glaw trwm a gwyntoedd cryf mewn ardaloedd o Gymru

Mae cawodydd o law trwm a gwyntoedd yn cyrraedd 60 milltir yr awr wedi taro sawl rhan o Gymru.

Bu hi hefyd yn noson stormus ledled y wlad.

Y de a'r gorllewin sydd i ddisgwyl y tywydd gwaethaf, yn enwedig ar y glannau ac ar dir uchel.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn rhybuddio am lifogydd a difrod i goed.

Dylai pobl wrando ar adroddiadau tywydd a chadw golwg ar wefan yr asiantaeth neu ffonio'r llinell wybodaeth ar 0845 988 1188

Dydd Gwener roedd gan yr Asiantaeth saith rhybudd i fod yn barod am lifogydd am 1.30pm, Dyffryn Dysynni, Bran a Gwydderig yn Llanymddyfri, gogledd Ceredigion, Tywi Uchaf, Llyfni ac Ogwr, Teifi Uchaf ac Afon Rhondda.

Mae'n bosib y bydd achosion o lifogydd lleol hefyd.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, bod 'na ychydig o newidiadau i'r Maes yng Nglynllifon, oherwydd y tywydd.

"Roedden ni'n disgwyl gwyntoedd cryfion dros nos ac felly fe gafodd pentre' Mistar Urdd ei dynnu lawr rhag i neb gael niwed.

"Rydym wedi symud y gweithgareddau o gwmpas y Maes."

Bu'n rhaid i drefnwyr cystadleuaeth Gwpan y Byd can诺 slalom yng Nghaerdydd ohirio'r gystadleuaeth tan y penwythnos oherwydd y tywydd.

Mae cystadleuwyr o 38 o wledydd yn cymryd rhan.

Tywydd annhymorol

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd o law trwm yng ngorllewin Cymru, rhybuddion o wyntoedd cryfion i'r de a de Powys a Cheredigion.

"Mae disgwyl y bydd tua 50 mm o law, sydd yn ddwy fodfedd syrthio mewn sawl man ac fe fydd tua phedair modfedd mewn manne mynyddig," meddai cyflwynwraig tywydd 麻豆官网首页入口 Cymru, Yvonne Evans.

"Mae'n debygol y bydd trafferthion i deithwyr gyda'r posibilrwydd llifogydd a thonnau uchel.

"Mae'r tywydd yn annhymhorol iawn a'r tymheredd ar ei ucha' yn 15 gradd Celsius.

"Yn ystod y dydd fe fydd y gwyntoedd yn cryfhau ac fe fydd glaw trwm yn parhau am gyfnodau hir.

"Gan fod y gwynt a'r glaw yn dod o'r gorllewin, does dim disgwyl cymaint o law yn manne cysgodol yn y dwyrain.

"Dros y penwythnos fe fydd hi'n fwy sefydlog, dydd Sadwrn yn sychach, brafiach gyda'r gwynt yn gostegu wrth i'r diwrnod fynd yn ei blaen ond fe fydd hi'n fore cymylog gyda chyfnodau o law yn y gogledd."

Mae'r M48 dros Bont Hafren a'r A477 Pont Cleddau wedi cau i gerbydau uchel oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Mae 'na goeden wedi syrthio ac yn achosi trafferthion ar Heol Crymlyn yn Llansamlet.

Ac mae llifogydd ar Queensway yng Nghasnewydd yn achosi peth trafferthion.

Mae disgwyl i'r tywydd fod yn ansefydlog ac yn gyfnewidiol am y 10 diwrnod nesaf yn 么l y Swyddfa Dywydd gyda chymysgedd o heulwen, cawodydd a chyfnodau hirach o law ar adegau.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol