Llifogydd: Ap锚l yn cael ei lansio

Ffynhonnell y llun, Ceredigion council

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y cynghorydd Ellen ap Gwynn mai nod yr ap锚l yw cynorthwyo'r rheiny sydd wedi dioddef yn dilyn y llifogydd

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion wedi datgan bod ap锚l yn cael ei lansio i unigolion a chymunedau sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r llifogydd sydd wedi taro gogledd Ceredigion.

Dywedodd y cynghorydd Ellen ap Gwynn mai nod yr ap锚l yw cynorthwyo'r rheiny sydd wedi dioddef yn dilyn y llifogydd yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion.

Fe gafodd 150 o bobl eu hachub gan y gwasanaethau brys ac o leiaf fil o bobl eu gorfodi i symud i fan diogel.

Cafodd tri o bobl eu trin am f芒n anafiadau.

'Torcalonnus'

Bu'n rhaid i nifer o bobl dreulio'r noson gyda ffrindiau neu mewn gwestai ar 么l i'w cartrefi a'u carafannau gael eu dinistrio.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: "Rwyf wedi gweld yn bersonol y dirfod mae'r llifogydd wedi gadael ar eu h么l.

"Mae'n dorcalonnus gweld cynifer o gartrefi wedi eu dinistrio a chynifer o bobl wedi colli eu heiddo personol.

"Fy ngobaith yw trwy lansio'r ap锚l hwn y gallwn gynorthwyo'r rheiny sydd wedi dioddef gymaint i gael trefn ar eu bywydau cyn gynted 芒 phosibl.

"Mae hefyd wedi bod yn galonogol gweld y cymunedau'n dod at ei gilydd i gynorthwyo gyda'r gwaith glanhau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion y bydd mwy o fanylion am yr ap锚l yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.