麻豆官网首页入口

Llifogydd: Annog asiantaeth i weithredu

  • Cyhoeddwyd
Soffa yn cael ei rhoi mewn fan sbwriel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Soffa yn cael ei rhoi mewn fan sbwriel

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cael eu hannog i atal llifogydd rhag digwydd eto.

Yng Ngheredigion cafodd 150 eu hachub gan y gwasanaethau brys ac o leiaf 1,000 eu symud i fan ddiogel.

Cafodd tri driniaeth am f芒n anafiadau.

Dywedodd Phillip Pickersgill, rheolwr risg llifogydd yr asiantaeth yn y de-orllewin, nad oedd swyddogion wedi methu unrhyw arwyddion.

"Roedd yn anffodus fod dalgylch Afon Leri'n fach iawn."

Ardal fawr

Gallai'r asiantaeth gyhoeddi rhybudd yn achos ardal fawr nid bach, meddai.

Rhybuddiodd y gallai'r hyn ddigwyddodd fod yn fwy aml a bod angen "mwy o sylw i'r wybodaeth am y digwyddiadau hynny".

"Ar y cychwyn roedd awgrymiadau y byddai'r ffrynt yn arwain at law mawr yn y canolbarth.

"Ond nid oedden ni'n disgwyl lefel y glaw na pha mor hir yr oedd yn bwrw glaw."

Cwympodd hyd at bum modfedd (120mm) o law mewn 24 awr.

Serch hynny, meddai, roedd yr amddiffynfeydd yn ardal Aberystwyth yn gadarn.

Cafodd 35 o bobl eu hachub pan ddifrodwyd dros 100 o garafanau ym mharc Riverside yn Llandre ger y Borth, bedair milltir o Aberystwyth, ar 么l i Afon Leri orlifo.

Ym mharc carafanau Mill House yn N么l-y-bont ger Borth cafodd 11 eu hachub.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y t欧 hwn yn Nhalybont ei daro gan y llifogydd

Achubwyd 30 o bobl o Barc Carafanau Maes Bangor yng Nghapel Bangor a chafodd 20 o bobl eu hachub o Barc Carafanau Glen Leri ger Y Borth.

Yn Nhalybont, naw milltir o Aberystwyth, bu'n rhaid i nifer o bobl gysgodi yn neuadd y pentre' ar 么l i hyd at bum troedfedd o dd诺r lifo i 25 cartref.

Cafodd 10 t欧 eu taro gan lifogydd ym mhentref Penrhyn-coch, dair milltir o Aberystwyth, lle achubwyd un person.

'Ymchwiliad llawn'

Dywedodd AS Ceredigion, Mark Williams: "Mae'n rhaid inni ddysgu gwersi a bydd yn rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd asesu'r strategaethau sydd mewn lle.

"Rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol yn ystyried y goblygiadau tymor hir yn sgil y llifogydd.

"Does dim dwywaith y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal ymchwiliad llawn ynghylch y llifogydd hyn"

Y mannau a gafodd eu taro waetha' oedd pentrefi Talybont, D么l-y-bont, Penrhyn-coch a Llandre i'r gogledd o Aberystwyth.

Dywedodd Lowri Jones, o fferm Tangeulan yng Nghapel Bangor: "Mae llawer iawn o bwyslais ar warchod yr amgylchedd ond dim cymaint i sicrhau bod gwely'r afon yn cael ei dacluso.

"Does dim hawl gan ffermwyr i lanhau gwelyau'r afonydd sydd, efallai, yn cynyddu'r peryg o lifogydd yn yr ardal.

'Argae'

"Creodd brigau a cherrig argae uwchben y pentref tua 10 mlynedd yn 么l ac roeddem yn ffodus nad oedd neb wedi dioddef llifogydd bryd hynny.

"Does dim byd wedi cael ei wneud ers hynny, ac o ganlyniad mae'r broblem wedi cynyddu.

"Mae'r d诺r yn cael ei olchi'r holl ffordd o'r mynyddoedd i'r dyffryn ac o ganlyniad mae'r afon wedi symud yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

"Rwy'n ffyddiog y byddai ffermwyr yn barod i gydweithio i atal problem fel hon rhag codi yn y dyfodol."