麻豆官网首页入口

Cyw Gwalch arall wedi marw yn Nyffryn Dyfi

  • Cyhoeddwyd
Cywion Gweilch y Pysgod yn Nyffryn DyfiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r tri gwalch a anwyd sydd yn dal yn fyw

Mae un o gywion Gweilch y Pysgod yn Nyffryn Dyfi wedi marw ar 么l tywydd garw yn y canolbarth dros y dyddiau diwethaf.

Un cyw, o'r enw Ceulan, sydd ar 么l bellach.

Roedd 'na dri chyw yno'n wreiddiol a bu farw un yn fuan wedi iddo ddeor.

Mae'r prosiect yng Nghors Dyfi ger Machynlleth ym Mhowys, yn dilyn y gweilch ac maen nhw hefyd wedi ymddangos ar raglen y 麻豆官网首页入口 Springwatch.

Mae 'na gamera gwe ger y nyth yn dilyn cynnydd y cywion a gafodd eu geni i ddau walch o'r enw Monty a Nora.

Dywedodd y warden Emyr Evans ar ei blog: "Fe fydd Mehefin 9 2012 yn aros yn y cof am amser hir, diwrnod swrrealaidd.

Bwydo

"Roedd edrych allan drwy'r ffenest am 5am yn cadarnhau'r newyddion gwaetha - y storm mwya trychinebus i daro gorllewin Cymru mewn cof....mae'n golygu bod y glaw wedi bod yn llenwi'r nyth am 24 awr yn ddi-baid.

"Roedd rhoi'r cyfrifiadur ymlaen yn cadarnhau bod y p诺er wedi ei golli."

Eglurodd bod y p诺er wedi ei adfer ac fe gadarnhawyd bod y ddau gyw yn dal yn fyw ond bu farw un yn fuan wedyn.

Roedd y cyw arall yn agos at farw gan nad oedd y fam yn ei fwydo.

Fe wnaeth swyddogion y prosiect gymryd y cam anarferol o ymyrryd a symud y cyw o'r nyth.

Wedi ei fwydo a'i gryfhau cafodd ei roi yn 么l yn y nyth.

Eglurodd Mr Evans pam eu bod wedi galw'r cyw yn Ceulan.

"Mae'r cyw wedi goroesi un o'r stormydd gwaetha' mewn cof yn y rhan yma o Gymru.

"Un o'r ardaloedd i ddiodde' waetha ydi afon a Chwm Ceulan.

"Fel y gwelwyd ar Springwatch yr wythnos yma, mae lot o fywyd gwyllt yn yr ardal wedi eu colli ac eto mae trigolion Cwm Ceulan wedi goroesi i ddweud y stori.

"Felly hefyd y cyw bach."

Fe fydd wythnos olaf Springwatch ar 麻豆官网首页入口2 Cymru bob nos am 8pm tan nos Iau.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol