Llifogydd: Rheilffordd Cwm Rheidol yn ail agor

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Cwm Rheidol

Disgrifiad o'r llun, Difrodwyd rhannau o'r trac yn ystod y llifogydd dros y penwythnos diwethaf

Bydd Rheilffordd Cwm Rheidol yn rhedeg rhwng Aberystwyth a Phontarfynach unwaith eto yn ddiweddarach ddydd Gwener.

Difrodwyd rhannau o'r trac yn ystod y llifogydd dros y penwythnos diwethaf.

Ond mae t卯m y rheilffordd wedi bod yn gweithio'n ddiwyd ers hynny i sicrhau bod un o atyniadau mwyaf poblogaidd Ceredigion ar agor eto.

Roedd tua 150 troedfedd (45 metr) o'r cledrau yn hongian yn yr awyr wedi i'r tir odanynt gael ei olchi i ffwrdd gan lifogydd ddydd Sadwrn diwethaf.

'Anarferol iawn'

Mae'r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Ceredigion 芒 chyfrifoldeb dros dwristiaeth wedi llongyfarch ymdrechion Rheilffordd Cwm Rheidol.

Dywedodd: "Mae hyn yn newyddion gwych ac yn arwydd clir bod Ceredigion ar agor i ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Vale of Rheidol Railway

Disgrifiad o'r llun, Fe ddioddefodd rhannau o Geredigion lifogydd pum troedfedd yn ystod y penwythnos diwethaf.

"Do, rydym wedi gweld golygfeydd truenus yn ystod y dyddiau diwethaf ac mae'n bosibl y bydd hi'n cymryd ychydig mwy o amser i fusnesau eraill fedru agor unwaith eto.

"Rhaid cofio bod digwyddiadau'r penwythnos diwethaf yn anarferol iawn yn y rhan hwn o Gymru a hoffwn sicrhau ymwelwyr bod Ceredigion yn bendant ar agor."

Fe ddioddefodd rhannau o Geredigion lifogydd pum troedfedd yn ystod y penwythnos diwethaf.

Mae'r gwaith o lanhau yn parhau yn Aberystwyth a phentrefi fel Tal-y-bont, D么l-y-bont a Llandre.