麻豆官网首页入口

Cyhoeddi bil drafft rhoi organau

  • Cyhoeddwyd
Cerdyn rhoddwrFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru yn ychwanegu enwau pawb at y gofrestr rhoi organau yn awtomatig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion newid trefn rhoi organau.

Bydd pobl yn rhoddwyr os nad ydyn nhw wedi optio allan o fod ar y gofrestr rhoi organau, yn 么l y .

Mae'r rhai o blaid y newid wedi dweud y bydd yn golygu mwy o organau ar gael ar gyfer trawsblaniadau.

Ond mae arweinwyr eglwysi yn erbyn y newid ac mae Cymdeithas y Gyfraith wedi galw am fwy o eglurder am r么l y teulu pan fydd perthynas yn marw.

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu system caniat芒d tybiedig.

2015

Mae'r bil drafft yn cael ei gyhoeddi wedi ymgynghoriad cyhoeddus ac mae gweinidogion wedi dweud bod y canlyniadau'n cefnogi eu cynlluniau.

Pan fydd y mesur yn cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, fe allai fod mewn lle erbyn 2015.

Gyda 300 o bobl ar y rhestr aros am organau, mae Llywodraeth Cymru am geisio gwella graddfa rhoi organau.

Ond mae'r Eglwys yng Nghymru, Eglwys Babyddol Cymru a'r Genhadaeth Uniongred yng Nghymru wedi galw am ail-ystyried.

Dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru: "Mae cytuno i fod ar y rhoddwr organau yn rhywbeth y dylai pob Cristion annog pobl i'w wneud ond fel unrhyw rodd allgarol, fe ddylai organau a meinwe gael eu rhoi yn rhydd nid yn dybiedig.

'Eglurder'

"Ac mae'n braf cael mwy o eglurder am y system, yn enwedig o ran cydnabod pwysigrwydd y teulu adeg y penderfynu."

Dywedodd Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.

Yng Nghymru mae dros 2,500 o aelodau ac ers 12 wythnos maen nhw wedi hysbysu pobl Cymru am y newidiadau.

Bydd ymgynghoriad y bil drafft yn dod i ben ar Fedi 10, 2012.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol