Dim lefel O, medd gweinidog

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r system gymwysterau.

Fydd arholiadau lefel O ddim yn cael eu hail-gyflwyno yng Nghymru, medd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, yn ystyried cael gwared ar gymhwyster TGAU a dychwelyd i'r hen ddull o arholi.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r system gymwysterau.

"Yr hyn sydd angen yw system y mae rhieni, disgyblion a phobl fusnes yn ei deall," meddai Mr Andrews wrth 麻豆官网首页入口 Radio 5 Live.

2014

"Y ffordd ymlaen yw eu hadolygu'n drylwyr nid cyhoeddi er mwyn denu sylw papurau newydd."

Gallai newidiadau Mr Gove, y rhai mwya pellgyrhaeddol ers cenhedlaeth, gael eu cyflwyno erbyn hydref 2014.

Mae'r manylion wedi dod i sylw'r Daily Mail.

"Fe fyddwn ni'n penderfynu ein cynlluniau ar sail y dystiolaeth," meddai Mr Andrews.

Lleihau

Mae'r adolygiad yn ystyried a ddylai cymwysterau newydd ar gyfer disgyblion rhwng 14 a 16 oed fod yn lle'r drefn bresennol neu a ddylai Cymru ddilyn patrwm Lloegr.

Hefyd mae'n ystyried lleihau'n sylweddol nifer y cymwysterau ar gael.

Ar hyn o bryd mae 6,500 yn cael eu dysgu mewn ysgolion a cholegau.