麻豆官网首页入口

Coff谩u digwyddiadau hanesyddol yng Nghwm Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Cofeb las yn cael ei dadorchuddio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cofeb las yn cael ei dadorchuddio

Mae gweithgareddau yng Nghwm Rhondda yn nodi 200 mlynedd ers i'r pwll dwfn cyntaf gael ei suddo.

Yr un diwrnod mae'r cwm yn nodi 100 mlynedd ers sefydlu'r T卯m Achub yn Lewis Merthyr.

Corau a seindorf pres sy'n diddanu ymwelwyr Parc Treftadaeth Y Rhondda rhwng hanner dydd a 4pm ddydd Sadwrn.

"Mae effeithiau'r ddau ddigwyddiad hanesyddol wedi bod yn arwyddocaol," meddai Nicola Newhams o'r Parc Treftadaeth.

Man cychwyn

Walter Coffin yw'r dyn ddatblygodd feysydd glo'r Rhondda yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafodd y pwll dwfn cynta ei agor yn Dinas a hwn oedd man cychwyn sefydlu'r ardal fel un feysydd glo cyfoethoca'r byd.

Ganrif yn ddiweddarach aed ati i sefydlu'r T卯m Achub - ac mae cofeb las yn cael ei dadorchuddio yn Lewis Merthyr ddydd Sadwrn.

"Heb gloddio yn Dinas mae'n annhebyg y byddai'r diwydiant glo wedi datblygu yma o gwbl," meddai Ms Newhams.

"Mae'r T卯m Achub yn hynod bwysig.

'Aberfan'

"... roedd yn bwysig adeg trychineb Aberfan ac, yn fwy diweddar, ym Mhwll y Gleision.

"Er nad oes yna lawer o lofeydd ar 么l - mae yna rai pyllau bach - mae'r t卯m yn bwysig o hyd."

C么r Meibion y Cambrian, y delynores Jennifer Jones a Seindorf Lewis Merthyr sy'n diddanu'r ymwelwyr.