麻豆官网首页入口

Ceisio rhoi hwb i fusnesau bach yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Arian parodFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae microfusnesau yn cyflogi dros 331,400 yn y sector preifat yng Nghymru

Mae Siambr Fusnes De Cymru a'r Ganolfan Fusnes wedi dod at ei gilydd i lansio cynllun newydd i gefnogi microfusnesau ac i annog twf economaidd yng Nghymru.

Nod prosiect MicroZone yw rhoi cymorth i unigolion sy'n berchnogion busnes, cwmn茂au newydd, a chwmn茂au llai sydd 芒 hyd a thri o weithwyr a throsiant syn llai na 拢100,000.

Bydd y cynllun yn cynnig ystod o wasanaethau hanfodol, yn cynnwys bancio am ddim am dair blynedd, defnydd o linell gymorth gyfreithiol 24 awr y dydd, ynghyd 芒 chyfleusterau eraill fydd yn eu helpu i dyfu tra'n cadw costau i lawr.

Dywedodd Graham Morgan, cyfarwyddwr Siambr Fusnes De Cymru: "Mae'r sector microfusnesau yn rhan hanfodol a bywiog o economi Cymru, ac mae ganddo'r potensial i gyfrannu'n effeithiol at adferiad economaidd y wlad.

"Yn y gorffennol, mae cefnogaeth ar gyfer microfusnesau yng Nghymru wedi bod yn anodd ei gael, gyda pheth darpariaeth yn cael ei ddyblygu, gan olygu fod rhai busnesau bach ddim yn gwybod pa ffordd i droi.

"Y nod, felly, yw symleiddio'r broses a chreu gr诺p o aelodau fyddai'n ceisio cwrdd ag anghenion y sector pwysig yma yng Nghymru."

Gostyngiad

Roedd 'na dros 193,000 (94.5%) o ficrofusnesau yng Nghymru'r llynedd, oedd yn gyfrifol am gyflogi dros 331,400 (33.2%) o bobl yn y sector preifat.

Mae'r gyfradd hon ychydig yn uwch nag yng ngweddill y DU, ble mae microfusnesau yn gyfrifol am 31.4% o gyflogaeth y sector preifat.

Rhwng 2003 a 2009, roedd microfusnesau Cymreig wedi tyfu ar raddfa gyflymach na busnesau tebyg yn y DU. Ond yn 2010, roedd 'na ostyngiad o thua 1% yn nifer y gweithwyr a gyflogwyd gan y sector yng Nghymru - patrwm a oedd yn wahanol i weddill y DU.

Meddai Graham Morgan: "Er bod microfusnesau yng Nghymru wedi gwneud yn well na'r cyfartaledd yn y DU am chwe blynedd, mae'n bryder fod hyn wedi dirywio dros y flwyddyn ddiwetha'.

"Dyna'n union pam fod y gwasanaeth yma'n bwysig i Gymru nawr. Mae'n rhaid i ni annog y sector yma am fod ganddo'r gallu, gyda'r gefnogaeth a'r amodau cywir, i fod yn flaengar yn y broses o ddatblygu economi Cymru.

"Rydym yn rhagweld y byddwn yn cefnogi hyd at 7,500 o ficrofusnesau dros y pum mlynedd nesa."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol