麻豆官网首页入口

Dirwyo rhieni plant sy'n chwarae triwant yn gyson

  • Cyhoeddwyd
Pobl ifancFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywoodraeth Cymru wedi newid polisi ar ddirwyo rhieni plant

O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru fe fydd rhieni yn cael eu dirwyo pe bai eu plant yn chwarae triwant o'r ysgol yn gyson.

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi gofyn i swyddogion lunio rheolau ar ddirwyon o hyd at 拢120 i rieni plant sy'n absennol heb ganiat芒d.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai dirwyon penodol i rieni yn cyd-fynd 芒'u polis茂au.

Ond mae Mr Andrews wedi gosod taclo triwantiaeth yn uchel ar restr o bethau i'w gwneud er mwyn gwella cyrhaeddiad addysgiadol plant Cymru.

Mae polisi dirwyo wedi bod mewn rhannau o Loegr ers 2004.

Yn 么l yr arbenigwr addysg sydd wedi cynghori Llywodraeth Cymru, fe allai dirwyon effeithio ar y rhieni mwya' tlawd.

"Gwendid y cynnig yw ei fod yn debygol o dargedu'r rheini mwya' bregus a'r rhai sy'n agos iawn at dlodi," meddai'r Athro Ken Reid o Brifysgol Fetropolitan Abertawe.

'Triniaeth deg'

"O dan ddeddf Ewropeaidd fe ddylai pob rhiant mewn sefyllfa debyg gael triniaeth deg.

"Fe fyddai'n rhaid nodi pam bod angen casglu dirwyon oddi wrth rai rhieni os nad yw hyn yn digwydd i bob rhiant yn yr un sefyllfa."

Mae gweision sifil wedi cyfarfod 芒 phob awdurdod lleol yng Nghymru i drafod yr ystadegau a'r hyn y gellir ei wneud i wella'r sefyllfa.

Yn 2010-11 yng Nghaerdydd yr oedd y raddfa ucha' o absenoldeb heb ganiat芒d mewn ysgolion uwchradd (2.9%) tra bod y nifer isa' yn Sir y Fflint, Powys a Chastell-nedd Port Talbot (0.5%).

Mewn ysgolion cynradd roedd y raddfa ucha' o 1.7% ym Mro Morgannwg a Chaerdydd a'r isa' yn Sir Fynwy, 0.2%.

"Mae'r Gweinidog wedi codi pryderon am lefel yr absenoldebau yn ysgolion Cymru ac rydym yn ystyried sut i gyflwyno rhybudd dirwyon i rai sy'n absennol yn gyson yn ein hysgolion a sut y byddai hyn yn gweithio ochr yn ochr 芒 strategaethau sydd eisoes yn bodoli," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Ym Medi rydym yn bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad llawn a chyfeirio at y mannau lle bydd y system o rybuddion dirwyon yn bodoli."

Lloegr

Yn Lloegr mae'r rhybuddion dirwyon wedi bodoli ers 2004 ac fe gafodd 32,641 eu cyflwyno yn 2010-11, cynnydd o bron 7,000 yn 2009-10 (25,657) ac fe gafodd 20,887 eu cyflwyno yn 2008-09.

Mae arolwg yn Lloegr a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg wedi dod i'r casgliad bod rhybuddion dirwyon penodol yn cael eu cysylltu gyda gwella presenoldeb yn y tymor byr ond bod hyn yn anoddach yn yr hir dymor.

Er hynny, roedd yr astudiaeth yn dangos bod dros dri chwarter (79%) o'r rhai wnaeth ymateb yn ystyried bod y rhybuddion "yn llwyddiannus iawn" neu'n "weddol lwyddiannus" i wella presenoldeb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol