Myfyrwyr tramor yn cael mantais?

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Dywed Prifysgol Caerdydd eu bod yn ymchwilio i'r honiad.

Mae un o brifysgolion Cymru yn cynnal ymchwiliad ar 么l honiadau fod myfyrwyr o dramor sy'n talu ffioedd uwch yn cael eu derbyn gyda graddau is na myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig.

Mae papur newydd y Daily Telegraph yn cyfeirio at Brifysgol Caerdydd wrth wneud honiadau am asiantaeth o Beijing, China.

Yn 么l yr erthygl maen nhw'n gallu sicrhau lle i fyfyrwyr o China sydd wedi cael tair gradd C lefel A, tra byddai angen i fyfyrwyr o Brydain sicrhau o leiaf dwy radd A, a B.

Mae'r honiadau yn ymwneud 芒 phrifysgolion Gr诺p Russel, gr诺p sy'n cynnwys Prifysgol Caerdydd.

Polisi cadarn

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd eu bod yn cymryd yr honiadau o ddifrif.

Dywedodd fod ymddygiad yr asiantaeth yn cam-gynrychioli'r polisi cadarn sydd mewn lle er mwyn i ddarpar fyfyrwyr sicrhau lle yn y brifysgol.

"O ganlyniad, mae Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i'r honiadau," meddai'r brifysgol mewn datganiad.

"Mae'r brifysgol yn ceisio denu'r myfyrwyr mwyaf galluog, fyddai'n elwa o gyrsiau'r brifysgol.

"Dyw asiantaethau ddim yn gwneud penderfyniadau yngl欧n 芒 sicrhau lle. Mae penderfyniadau yngl欧n 芒 phwy sy'n cael mynediad yn nwylo'r brifysgol."

Asiant swyddogol

Fe wnaeth newyddiadwyr y Telegraph ymweld 芒'r asiantaeth yn Beijing sy'n honni iddynt sicrhau lle i 2,500 o fyfyrwyr ym mhrifysgolion Prydain y llynedd.

Dywed y papur newydd mai cwmni Golden Arrows Consulting yw asiant swyddogol mwy na 20 o brifysgolion o Brydain yn China.

Yn 么l y Telegraph fe wnaeth newyddiadurwr smalio fod myfyriwr o China wedi sicrhau tair gradd C mewn arholiadau lefel A.

"Ond fe gafodd y 'myfyriwr' gynnig lle yng Nghaerdydd a Sussex, " meddai'r Telegraph.

Dywed y Telegraph fod Cwmni Golden Arrow wedi cyfaddef iddynt sicrhau lle i fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd gyda graddau A,C a D - ond mynnodd y cwmni fod yr achos yn un arbennig.

Dywedodd Prifysgol Sussex wrth y papur newydd nad ydynt yn gwneud unrhyw gynigion C,C,C i unrhyw ddarpar fyfyriwr.

"Ond mae'n bosib, fodd bynnag, y gallai amodau mynediad mwy hael gael eu cynnig yn ystod proses UCAS, ond mae hynny'n anhegybol o olygu gostyngiad o fwy nag un neu ddwy radd."