Pennaeth newydd Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Athro Aled Jones yn arbenigo yn hanes y Gymru fodern

Mae'r Athro Aled Gruffydd Jones wedi ei benodi yn Bennaeth ar Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd ei fod yn awyddus fod yr adran yn cyfrannu'n llawn at gryfhau'r iaith yn y brifysgol ac at adeiladu ar y ddarpariaeth academaidd, yn arbennig ymhlith 么l-raddedigion.

Mae'r Athro Jones yn Ddirprwy Is-Ganghellor H欧n yn y Brifysgol ac yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad darpariaeth Gymraeg ar draws y brifysgol.

Y mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Coleg.

Mae'r penodiad am gyfnod o hyd at dair blynedd ac mae'n olynu'r Athro Patrick Sims-Williams.

'Cyfnod cyffrous'

Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod cyffrous yn natblygiad darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

"Mae'r adran eisoes yn adnabyddus ar draws y byd am ansawdd uchel ei hymchwil ac yr wyf yn awyddus iawn i sicrhau fod hyn y parhau yn flaenoriaeth wrth i ni gwblhau'r paratoadau ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a thu hwnt."

'Diamheuaeth'

Dywedodd Tammy Hawkins, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth: "Mae llwyddiant a ffyniant yr adran yn holl bwysig.

Dyna pam rwy'n croesawu penodiad yr Athro Aled Jones.

"Mae ei ymroddiad i Gymreictod y Brifysgol yn ddiamheuaeth ac yn fy amser i yma yn Aberystwyth rwyf wedi gweithio'n agos gyda fe er budd ein myfyrwyr."

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth fod gan yr Athro Aled Jones bedwar amcan yn y swydd:

  • datblygu ysgolheictod yn y Gymraeg;
  • cynyddu cyfraniad Aber at y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
  • parhau i arwain cyfraniad sylweddol Aber i bob agwedd ar fywyd a diwylliant Cymru;
  • dychwelyd Adran y Gymraeg i'w safle o ragoriaeth ddigymar yng Nghymru.

Er y bydd yr Athro Jones yn parhau yn ei swydd fel Dirprwy Is-Ganghellor H欧n, bydd yn rhoi'r gorau i rai cyfrifoldebau o fewn ei bortffolio, sef Ymchwil, Menter a Chysylltiadau Rhyngwladol, er mwyn canolbwyntio ar arwain Adran y Gymraeg.

Bu'n Bennaeth Adran Hanes a Hanes Cymru a Deon y Dyniaethau cyn cael ei apwyntio i swydd Dirprwy Is-Ganghellor yn 2005.

Hanes Cymru

Cafodd ei benodi yn Is-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynharach eleni ac mae'n aelod o Banel Hanes Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol, yn gyn-olygydd Cylchgrawn Hanes Cymru, ac ef yw deilydd Cadair Hanes Cymru Syr John Williams.