Iechyd: Sut mae Cymru'n cymharu?

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr adroddiad yn dangos bod gwariant y pen ar iechyd yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr

Mae adroddiad manwl yn cymharu gwasanaethau iechyd yn y Deyrnas Unedig wedi cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Mae'n dangos bod Cymru yn gwario mwy na Lloegr ar wasanaethau iechyd fesul y pen o'r boblogaeth.

Ond mae gan Gymru lai o feddygon teulu, mae hyd oes yma ychydig yn llai, ac mae cleifion yn aros yn hwy yn yr ysbyty.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn mynnu bod y gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth yn y dyddiau economaidd anodd hyn.

Cyhoeddir yr adroddiad ddiwrnod ar 么l i'r Ceidwadwyr honni bod mwy na 10,000 o bobl y flwyddyn yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys ysbytai yng Nghymru.

Yn 么l ffigyrau ddaeth i law'r blaid, cofnododd ysbytai fod 842 o bobl wedi aros mwy na 24 awr

Mynediad brys

Ond mae adroddiad y swyddfa archwilio hefyd yn dangos bod gan Gymru'r lefel uchaf o fynediad brys i'r ysbyty yn y DU.

Yng Nghymru, roedd y gyfradd mynediad brys yn 2009-2010 yn 11,471 am 100,000 o'r boblogaeth.

Mae hynny 1,500 yn fwy nag yn Lloegr a mwy na 3,000 yn uwch na'r gyfradd yng Ngogledd Iwerddon.

Yn 2010/11 roedd gwariant ar wasanaethau iechyd fesul y pen o'r boblogaeth yn 拢2,017 yng Nghymru a 拢1,900 yn Lloegr.

Ond mae'r adroddiad yn awgrymu erbyn 2014 y bydd y bwlch o 6% mewn gwariant yn diflannu.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar: "Mae hyn yn rhagor o dystiolaeth annibynnol o raddfa doriadau digynsail y blaid Lafur i'r gyllideb iechyd yng Nghymru."

Ond yn 么l llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: "Mae'r adroddiad yn dangos yn glir bod Cymru wedi gwario mwy na Lloegr ar wasanaethau iechyd fesul y pen o'r boblogaeth".