Prifysgol newydd i'r de

Mae prifysgolion Morgannwg a Chasnewydd wedi cytuno i gyfuno a ffurfio prifysgol newydd.

Mewn datganiad ar y cyd cyhoeddwyd mai'r bwriad yw creu corff fydd yn gallu cystadlu gyda phrifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig a hefyd ar y farchnad ryngwladol.

Dywedodd llefarydd y bydd y brifysgol newydd yn faint tebyg i brifysgol Caerdydd o ran niferoedd.

Yn 么l Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru, mae'r penderfyniad yn cyfleu neges gref i'r sector addysg uwch yng Nghymru.

Fe fydd llywodraethwyr a phrif reolwyr y ddau sefydliad nawr yn cydweithio gyda'i gilydd er mwyn llunio rheolau ar gyfer y brifysgol newydd.

Dyw enw'r sefydliad heb ei benderfynu.

'Agored i ehangu pellach'

Mae'r datganiad yn dweud er mai cytundeb rhwng Morgannwg a Chasnewydd yw'r cytundeb hwn, fe fydd y sefydliad newydd yn "agored i ehangu pellach yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw bartneriaid newydd."

"Bydd yna ffocws ar sicrhau cyfleodd i fyfyrwyr yn y gweithle, a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl leol," meddai'r datganiad.

Dywedodd Andrew Wilkinson, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Cymru Casnewydd: "Rydym yn croesawu'r datblygiad wrth i'r ddau sefydliad geisio adeiladu ar eu cryfderau i ddatblygu model newydd ar gyfer addysg uwch yn ne Cymru."

Dywedodd yr Athro John Andrews, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Morgannwg: "Gyda'r buddsoddiadau mae'r ddwy brifysgol wedi eu gwneud yn ddiweddar, mae hwn yn amser da i ni ddatblygu ymhellach ...a datblygu'n sefydliad fydd yn cystadlu nid yn unig ar lefel y Deyrnas Unedig ond hefyd yn rhyngwladol.

Yn 么l y Gweinidog Addysg, hwn yw'r cam cyntaf i gryfhau darpariaeth Addysg Uwch yn y de ddwyrain.

"Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad fydd yn cyfuno cryfderau'r ddau sefydliad er budd myfyrwyr ac er budd economi Cymru," meddai Leighton Andrews.

Yn wreiddiol roedd Mr Andrews wedi ffafrio uno tri sefydliad, sef Morgannwg, Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Awgrymwyd yr uniad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), y corff sy'n ariannu prifysgolion Cymru, a ddywedodd y dylid cwtogi nifer y prifysgolion o 11 i chwech.

Cafodd y syniad ei wrthwynebu'n chwyrn gan Barbara Wilding, llywodraethwr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Ar un adeg dywedodd ei bod yn bosib y bydd yn rhaid mynd i gyfraith pe bai nhw'n cael eu gorfodi i uno 芒 phrifysgolion eraill.