麻豆官网首页入口

Prynu Boomerang + am fwy na 拢7m

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gwmn茂au teledu annibynnol Cymru wedi cael ei brynu gan ei reolwyr am fwy na 拢7 miliwn.

Mae Boomerang + yng Nghaerdydd yn gyfuniad o gr诺p o gwmn茂au sy'n gweithio ym meysydd cynhyrchu, 么l gynhyrchu, adnoddau teledu a rheolaeth talent ac yn cynnwys cwmn茂au cynhyrchu Alfresco ac Apollo.

Sefydlwyd Boomerang yn 1994 ac mae rhaglenni Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys chwaraeon eithafol, drama, comedi, digwyddiadau byw, rhaglenni plant, cynnwys ar gyfer y we a darllediadau radio.

Fe fydd Boomerang + yn newid enw i Boom Pictures wrth i Lorraine Heggessey, cyn-reolwraig 麻豆官网首页入口 1 a chyn-brif weithredwr cwmni Talkback Thames, ymuno 芒'r cwmni.

Dywedodd fod Boomerang + yn ffynnu ac yn barod i ehangu.

'Arwyddocaol'

Hi fydd cadeirydd gweithredol y cwmni newydd sydd wedi'i gefnogi'n ariannol gan y cwmni ecwiti preifat LDC.

Prif weithredwr Boomerang +, Huw Eurig Davies, fydd prif weithredwr Boom Pictures o dan y drefn newydd.

Dywedodd y byddai'r cwmni newydd yn cael ei leoli yng Nghaerdydd.

"Mae gan Lorraine record heb ei hail ym myd teledu a chynhyrchu.

"Ac mae'r penderfyniad i gyd-weithio 芒 Lorraine ac LDC yn gam arwyddocaol wrth inni ddal ati i ddatblygu ein strategaeth i adeiladu busnes creadigol rhyngwladol cryf 芒'i bencadlys yng Nghymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol