Angen darllen mwy gartref i wella safonau disgyblion

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Dylid annog plant i ddarllen mwy y tu allan i'r dosbarth

Honnir bod angen i blant ddarllen mwy y tu allan i'r ystafell ddosbarth os yw Cymru i wella ei pherfformiad mewn profion rhyngwladol.

Bydd pobl ifanc 15 mlwydd oed o amgylch y byd yn cael eu profi mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn hwyrach eleni.

Yn y profion diwethaf dair blynedd yn 么l, roedd Cymru yn is na'r cyfartaledd o ran darllen a mathemateg, ac ar gyfartaledd o ran gwyddoniaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddynt nifer o fentrau i godi safonau llythrennedd.

Cymru oedd yr isaf o wledydd y DU ym mhrofion Rhaglen Asesu Rhyngwladol Myfyrwyr (Pisa) yn 2009.

Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn clywed sut y gall gwledydd wella eu perfformiad gan uwch ddadansoddwr Pisa, Michael Davidson ddydd Iau.

Dywedodd Mr Davidson wrth 麻豆官网首页入口 Cymru Wales y gallai sgorau darllen gael eu gwella drwy annog mwy o ddarllen.

"Un o'r ffyrdd mwyaf cryf o ragweld llwyddiant darllen yw faint mae myfyrwyr yn darllen, naill ai yn yr ysgol neu tu allan i'r ysgol," meddai.

"Yn Nghymru ymhlith pobl ifanc 15 mlwydd oed, mae yna wahaniaeth o 50 pwynt Pisa - mwy 'na gwerth blwyddyn o ysgol - rhwng myfyrwyr nad ydynt yn darllen er mwynhad a'r rhai sydd yn darllen am hyd at 30 munud.

"Un o'r negeseuon ar gyfer y Gweinidog a'r system addysg yw annog myfyrwyr i ddarllen mwy.

"Gall anogaeth ddod o du mewn y dosbarth ond yn sicr yn y cartref hefyd."

Yn 2009, allan o 67 o wledydd a gymerodd rhan, roedd Cymru yn y 38fed safle o ran darllen, safle 40 ym Mathemateg a safle 30 yng ngwyddoniaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am i Gymru fod yn yr 20 uchaf erbyn 2015.

Ar y pryd dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod y canlyniadau yn "annerbyniol".

"Un o'r negeseuon allweddol gall Cymru gymryd yn dilyn astudiaeth Pisa yw bod gwellhad yn bosib, a bod gwledydd fel Chile, Periw, Yr Almaen, a Gwlad Pwyl wedi gwella'n sylweddol," meddai Mr Davidson.

Yn Ionawr 2011, adroddwyd bod cynghorau yng Nghymru yn gwario 拢604 yn llai ar gyfartaledd ar bob disgybl o'i gymharu 芒 chynghorau yn Lloegr.

Ond dywedodd Mr Davidson nad oedd gwario mwy o arian, o reidrwyddm, yn ateb.

"Mae gwneud defnydd gwell o'r adnoddau sydd gennych a gwario'r arian sydd ar gael yn effeithiol yn fwy pwysig," dywedodd.