Galw am ymddiswyddiad wedi ffrae e-byst

Disgrifiad o'r llun, Dywed y Gweinidog Iechyd fod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu o safbwynt meddygol nid gwleidyddol

Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn gwneud datganiad brys ddydd Mawrth wedi galwadau iddi ymddiswyddo yn sgil honiadau bod gweision sifil wedi dylanwadu'n annheg ar adroddiad annibynnol am newidiadau i ysbytai.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC, wedi dweud y dylai Lesley Griffiths sefyll lawr os oedd hi'n gwybod am e-byst oedd yn awgrymu bod gweision sifil wedi gofyn i awdur yr adroddiad gefnogi'r ddadl am newidiadau i ysbytai.

Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas fod angen i'r Cynulliad wybod a oedd y gweinidog wedi ei gamarwain pan gyflwynodd yr adroddiad fel un annibynnol.

Dim ymgais

Mae Llywodraeth Cymru ac awdur yr adroddiad, yr Athro Marcus Longley, wedi mynnu nad oedd unrhyw ymgais i ddylanwadu ar yr adroddiad.

Mewn cyfres o e-byst sydd wedi dod i'r amlwg, mae'r athro o Brifysgol Morgannwg yn gofyn i weision sifil am "ffeithiau" i gefnogi'r ddadl o blaid newidiadau.

Mae'n lleisio pryderon "nad ydi'r dystiolaeth, fel y mae hi wedi ei chyflwyno, yn ymddangos mor dreiddgar ac yr oeddem yn ei obeithio".

Eisoes mae gweinidogion wedi dweud ar sawl achlysur fod yr adroddiad yn annibynnol ac yn ddiduedd.

Ymateb

A dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod swyddogion wedi ymateb i geisiadau'r Athro Longley a Chonffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd.

"Wnaeth Llywodraeth Cymru ddim ceisio dylanwadu ar na cheisio diwygio cynnwys yr adroddiad," meddai llefarydd.

"Roedd hynny'n fater i'r conffederasiwn ac i'r Athro Longley."

Yn yr e-byst mae'r athro wedi gofyn i Gyfarwyddwr Meddygol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Dr Chris Jones, am fwy o dystiolaeth i roi "min ar ddogfen er mwyn cefnogi'r ddadl dros newid".

Mewn e-bost arall gofynnodd Dr Jones i'r Athro Longley wneud yr adroddiad yn fwy positif, er enghraifft drwy gyfeirio at weledigaeth.

Meddygol

Ym mis Chwefror roedd e-bost yr athro'n lleisio pryderon i swyddogion Llywodraeth Cymru nad oedd ddigon o wybodaeth i brofi bod angen newid gwasanaethau.

Pan gyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mai dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, fod yr adroddiad yn annibynnol a'i fod wedi ei ysgrifennu o safbwynt meddygol nid gwleidyddol.

"Mae'r ddogfen yn amlwg wedi cael ei 'gorliwio'," meddai Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr.

Yn 么l arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, mae'n sefyllfa debyg i'r hyn digwyddodd cyn rhyfel Irac.

Bryd hynny cafodd Llywodraeth Lafur Prydain eu cyhuddo o 'orliwio' dogfennau er mwyn cryfhau'r ddadl dros fynd i ryfel.

Dywedodd Ms Williams: "Mae'r e-byst yma yn amlwg yn mynd yn groes i ddatganiadau'r Gweinidog Iechyd fod yr adroddiad yn "asesiad annibynnol" a'i fod yn "ddiduedd, wedi'i seilio yn llwyr ar dystiolaeth".

"Sut allwn ni nawr gael hyder ym mhroses ad-drefnu'r llywodraeth pan eu bod yn gorliwio dogfennau er mwyn eu dibenion eu hunain?"

Dywedodd Elin Jones o Blaid Cymru: "Naill ai mae gweinidogion y Blaid Lafur yn cam-arwain y Cynulliad yn fwriadol neu dydyn nhw ddim yn ymwybodol o r么l eu gweision sifil."

Mae'r Athro Longley wedi mynnu fod ei waith yn gwbl annibynnol.

Cafodd ei gwblhau, meddai, "yn gwbl ddiduedd a heb ddylanwad eraill".

Annibynnol

Ychwanegodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod hon yn ymgais arall gan y gwrthbleidiau i danseilio dadl bwysig ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd.

"Mae gan bobl Cymru ddewis i gredu tystiolaeth y gwaith ymchwil gan academydd uchel ei barch neu fwy o nonsens gan y gwrthbleidiau," meddai.

"Does 'na ddim cystadleuaeth."

Mae Cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru, Helen Birtwhistle, wedi dweud bod yr adroddiad yn drosolwg annibynnol.

"Roedd y byrddau iechyd yn credu ei bod yn allweddol bod gan y cyhoedd fynediad clir ac annibynnol i wybodaeth fyddai yn eu helpu i astudio'r cynlluniau arfaethedig.

"Fe gydlynodd y conffederasiwn fersiwn derfynol yr adroddiad ... a gwblhawyd yn Ebrill 2012."