麻豆官网首页入口

Rhwyg ymhlith Ceidwadwyr am ddiwygio T欧'r Arglwyddi

  • Cyhoeddwyd
T欧'r ArglwyddiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llywodraeth glymblaid am weld ail siambr sy'n llai a'r mwyafrif wedi eu hethol

Mae dros 100 o aelodau'r Blaid Geidwadol yn bygwth gwrthryfela yn erbyn y Llywodraeth ar gynlluniau i ddiwygio'r T欧'r Arglwyddi.

Mae'r 麻豆官网首页入口 wedi cael ar ddeall fod dros 70 wedi arwyddo llythyr yn erbyn diwygio T欧'r Arglwyddi, yn eu plith Guto Bebb (Aberconwy) ac Alun Cairns (Bro Morgannwg).

Nos Fawrth fe fydd yr ASau yn pleidleisio ar amserlen ar gyfer y mesur wedi i'r drafodaeth gychwyn ddydd Llun.

Gall hyn olygu fod David Cameron yn colli pleidlais yn y Senedd am y tro cyntaf ers iddo ddod yn Brif Weinidog yn 2010.

Roedd yna anhapusrwydd ar feinciau'r T欧'r Arglwyddi ddydd Llun hefyd yngl欧n 芒'r cynlluniau.

Mae'r llywodraeth yn San Steffan am weld ail siambr lai ac un gyda'r mwyafrif wedi eu hethol.

Fe allai'r penderfyniad achosi rhwyg yn y glymblaid o ystyried fod diwygio T欧'r Arglwyddi yn flaenoriaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.