麻豆官网首页入口

Y Gymdeithas Feddygol: Adroddiad yn 'ymgais sinigaidd'

  • Cyhoeddwyd
Lesley Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gweinidog wedi mynnu nad oedd ganddi r么l uniongyrchol wrth lunio'r adroddiad

Mae'r prif gorff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru wedi dweud bod modd ystyried adroddiad dadleuol am y Gwasanaeth Iechyd yn "ymgais sinigaidd i lywio barn gweithwyr iechyd a'r cyhoedd".

Dywedodd y BMA na ellir ystyried yr adroddiad yn annibynnol bellach wedi i e-byst rhwng awdur yr adroddiad a gweision sifil ddod i'r amlwg.

Roedd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi gwadu i Lywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar adroddiad yr economegydd iechyd, Yr Athro Marcus Longley o Brifysgol Morgannwg.

Maen nhw'n dangos bod yr Athro Longley wedi e-bostio Dr Chris Jones - cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, sydd hefyd yn uwch was sifil i Lywodraeth Cymru :-

  • Gofynnodd mewn un am fwy o dystiolaeth "i hogi'r ddogfen a'i heffaith wrth gefnogi'r achos dros newid";

  • Mewn un arall gofynnodd Dr Jones i'r Athro Longley i wneud yr adroddiad "yn fwy positif os yn bosib - h.y. disgrifio gweledigaeth ddarbwyllol o sut y gallai pethau fod yn well".

Dywedodd Mrs Griffiths na welodd hi'r adroddiad tan y fersiwn derfynol, a mynnodd nad oedd ei swyddogion wedi dylanwadu arni.

Mae Dr Richard Lewis, Ysgrifennydd y Gymdeithas Feddygol yng Nghymru, wedi dweud yn wyneb y gyfres o e-byst "does dim modd ystyried yr adroddiad fel ymchwil academaidd annibynnol".

'Amau'

"Ar y pryd pan gyhoeddwyd yr adroddiad roedden ni'n meddwl nad oedd y dystiolaeth yn y dogfennau technegol yn ddigon i gefnogi'r datganiadau yn y grynodeb.

"Rhaid i ni amau a gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi er mwyn ceisio cyfiawnhau cynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau yr oedd byrddau iechyd yn eu llunio."

Dywedodd fod y manylion am yr e-byst yn bwrw amheuaeth ar ymroddiad i ddarparu gwasanaethau "o'r radd flaenaf" i'r cyhoedd yng Nghymru.

Mae'r Athro Longley wedi mynnu fod ei waith yn gwbl annibynnol.

Cafodd ei gwblhau, meddai, "yn gwbl ddiduedd a heb ddylanwad eraill".

Honiadau

Mae'r gwrthbleidiau wedi honni bod yr e-byst yn dangos ymgais i chwilio am dystiolaeth i brofi casgliad oedd wedi ei hen benderfynu.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, wrth 麻豆官网首页入口 Cymru, bod rhaid "cael trafodaeth agored, trylowy ac onest gyda phobl Cymru am gyflwr y gwasanaeth iechyd, ac mae'n rhaid cael y drafodaeth mewn awyrgylch o ymddiriedaeth - mae hynny wedi mynd yn llawer anoddach bellach."

Roedd y Ceidwadwr William Graham, sy'n aelod o bwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol y Cynulliad, am i'r gweinidog egluro'r broses yn fanylach.

"Mae'r prif weinidog eisoes wedi dweud y byddai'r gweinidog yn fodlon ymddangos gerbron y pwyllgor i ateb cwestiynau," meddai, "felly beth am wneud hynny?

"Gadewch i ni glywed beth oedd y tu 么l i hyn, sut cafodd yr adroddiad ei gomisiynu, pam bod yr e-byst yma wedi eu gyrru ac yna fe allwn gael dealltwriaeth lawn o beth sy'n digwydd mewn gwirionedd."

'Cytuno'

Dywedodd Prif Swyddog meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, bod yr Athro Longley "yn academydd uchel ei barch" ac nad oedd yn synnu ei fod mewn cyswllt gyda swyddogion y llywodraeth wrth wneud y gwaith.

Dywedodd yntau wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Does dim byd yn adroddiad Marcus Longley oedd yn synnu pobl.

"Rydym am gael gwasanaeth iechyd o safon byd eang yng Nghymru, ac er mwyn cael hynny rhaid i ni foderneiddio'r gwasanaeth.

"Ddoe roedd cyfarwyddwyr meddygol ymhob gwasanaeth iechyd ar draws Cymru wedi cysylltu i ddweud eu bod yn cytuno'n llwyr gyda chanfyddiadau adroddiad Longley."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol