Dod 芒 gwasanaeth Clirlun S4C i ben

Wrth geisio arbed arian, bydd S4C yn dod 芒 gwasanaeth Clirlun i ben ddiwedd eleni - sef y llun manylder uwch ar gael i wylwyr Freesat.

Bydd hynny'n arbed 拢1.5 miliwn y flwyddyn.

Daw hyn wrth i'r sianel gyhoeddi ei bod wedi gwneud colled o dros 拢6m yn ystod 2011.

Mae adroddiad blynyddol y sianel yn dangos colled weithredol o 拢6,087,000 - dros bum gwaith yn fwy na'r golled y flwyddyn gynt, hynny yw 拢1,196,000 yn 2010.

Yn 么l Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, toriadau yng nghyllid S4C sydd wedi arwain at hynny.

Eto, meddai, roedd y sianel wedi ceisio cynnal safon y rhaglenni drwy ddefnyddio arian oedd wedi'i arbed o flynyddoedd blaenorol.

Dywedodd fod y sefyllfa'n dangos "yr her sydd gan y sianel ... i ddarparu gwasanaeth o safon uchel tra'n wynebu toriadau ariannol sylweddol."

拢90尘

Roedd grant Llywodraeth Prydain wedi gostwng o dros 拢101 miliwn yn 2010 i 拢90 miliwn yn 2011.

Mae 'na ostyngiad pellach i 拢83 miliwn eleni - ac o'r flwyddyn nesa, mi fydd y rhan fwya' o gyllid S4C yn dod drwy law'r 麻豆官网首页入口.