Rhodd o 拢75m gan Gymro i Brifysgol Rhydychen

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd Michael Moritz ei yrfa fel newyddiadurwr

Mae dyn busnes o Gaerdydd, Michael Moritz, wedi cynnig rhodd ariannol o 拢75 miliwn i Brifysgol Rhydychen.

Dywedodd y brifysgol y byddai'r rhodd yn dileu cynnydd mewn ff茂oedd i'r myfyrwyr tlota' ac y byddai'r ffi yn 拢3,500 y flwyddyn.

Fe fydd myfyrwyr cymwys hefyd yn derbyn arian tuag at eu costau byw.

Dywedodd Mr Moritz, 58 oed, a chadeirydd cwmni Sequoia Capital yn America, na fyddai ei deulu wedi llwyddo oni bai am gymwynaswyr.

Fe lwyddodd Mr Moritz ei arian yn America ar 么l gadael y brifysgol.

Rhoddodd y gorau i'w waith fel newyddiadurwr ar gylchgrawn Time a buddsoddi mewn cwmn茂au fel Google, YouTube, Apple a PayPal.

Cefnogi'r gorau

Dywedodd fod ei deulu yn ddyledus i gymwynaswyr wedi iddyn nhw gael lloches o'r Almaen Nats茂aidd.

"Fyddwn i ddim yma oni bai am bobl ddierth garedig," meddai Mr Moritz.

Ar sail ei brofiad yn America dywedodd fod nifer o'r arloeswyr mwya' "o'r cefndiroedd mwya' anarferol".

Ond mae ysgoloriaethau prifysgol wedi bod yn allweddol.

"Dwi am gefnogi'r un cyfleoedd," meddai.

Y nod, meddai, yw bod pob myfyriwr talentog - o bob cefndir - yn cael hyder llwyr wrth astudio yn Rhydychen.

'Dull newydd'

"Mae hwn yn ddull newydd o gynnig cyllid i fyfyrwyr y DU ... yn gyfle i freuddwydion a dyheadau unigolion sy'n benferfynol o ragori ..."

Y rhodd o bosib yw'r pecyn ariannol mwya' yn hanes prifysgolion Ewrop.

Gydag arian cyfatebol mae disgwyl i rodd Mr Moritz a'i wraig Harriet Heyman godi i 拢300 miliwn.

Mae'r pecyn ariannol yn werth tua 拢11,000 y flwyddyn yr un i fyfyrwyr teuluoedd gydag incwm o dan 拢16,000 y flwyddyn.