麻豆官网首页入口

Protest i geisio achub tair ysgol ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhieni a disgyblion sy'n ymgyrchu dros gadw tair ysgol fach ym Mhowys ar agor yn cynnal protest yn ddiweddarach.

Mae 'na gynlluniau posib i gau ysgolion Gladestry, Beguildy ac Whitton, gan symud disgyblion i Ysgol Tre'r Clawdd, Ysgol Llanandras neu Ysgol Dyffryn Maesyfed.

Yn 么l Cyngor Sir Powys, dyw'r niferoedd isel ddim yn cynnig gwerth am arian a byddai cau'r tair ysgol yn arbed 拢232,000.

Ddydd Mawrth bydd cefnogwyr o'r tair ysgol yn teithio ar fws o Ysgol Beguildy i Ysgol Tre'r Clawdd er mwyn tynnu sylw at hyd y daith, sy'n siwrne wyth milltir.

Fideo

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth disgyblion o Ysgol Gladestry ysgrifennu c芒n i gefnogi'r ysgol.

Maen nhw bellach wedi recordio fideo sydd i'w weld ar wefan YouTube.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgyblion Ysgol Gladestry wedi ysgrifennu c芒n i gefnogi'r ysgol

Fe gawson nhw gymorth gan y cyfansoddwr, Jim Eliot, sydd wedi gweithio gyda chantorion fel Kylie Minogue ac Will Young.

Yn 么l ffigurau diweddar, mae gan Ysgol Whitton 42 o ddisgyblion.

Mae 41 disgybl yn mynychu Ysgol Gladestry a 34 o ddisgyblion yn cael eu haddysg yn Ysgol Beguildy.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r nifer o leoedd gwag yn yr ardal hon yn sylweddol iawn ac mae hyn yn gwneud cost addysg pob disgybl yn uchel."

"Rydyn ni o'r farn y byddai ein cynlluniau nid yn unig yn cynnig gwell cyfleoedd dysgu i ddisgyblion yr ardal, ond hefyd yn cynnig mwy o werth am arian i drethdalwyr Powys."

Bydd ymgynghoriad anffurfiol ar gynlluniau'r cyngor yn dod i ben ddydd Gwener.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol