Diddymu prifysgol i greu sefydliad addysg uwch newydd

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd yn diddymu Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Eisoes mae Leighton Andrews wedi dechrau'r broses o uno'r brifysgol 芒 Phrifysgol Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.

Y nod yw creu prifysgol newydd ar gyfer y de-ddwyrain ac yn 么l y gweinidog, mae disgwyl i'r sefydliad agor yn 2014.

Roedd adroddiad annibynnol yr Athro Syr Steve Smith am addysg uwch yng Nghymru wedi casglu bod rhaid i brifysgolion y de-ddwyrain uno er mwyn osgoi dirywiad mewn safonau.

2013

Ddydd Mawrth dywedodd Mr Andrews ei fod yn cytuno bod dadl o blaid uno'r tri sefydliad.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mr Andrews ei fod yn cytuno bod dadl o blaid uno'r tri sefydliad.

"Rwyf wedi penderfynu cychwyn mor fuan 芒 phosib ymgynghoriad statudol ar ddiddymu Prifysgol Fetropolitan Caerdydd," meddai.

"Yn amodol ar gasgliadau'r ymgynghoriad hwn, byddwn yn disgwyl gweld datblygiadau yn y broses o uno Casnewydd a Morgannwg erbyn 2013."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Fetropolitan Caerdydd: "Rydym yn siomedig o gofio bod adroddiad yr athro yn cydnabod ein cryfderau a'r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni.

"Byddwn yn ystyried ein camau nesa' yn wyneb y ffaith nad oes tystiolaeth wedi ei chynnig o blaid y cyfuno."

Yn ddiweddar, dywedodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd na fydden nhw'n ymuno 芒 Phrifysgolion Morgannwg na Chasnewydd.

Dywedodd yr adroddiad fod cyfres o gyfleoedd wedi eu colli ym myd addysg uwch dros y blynyddoedd ac mai'r unig ffordd i atal dirywio fyddai i'r tair prifysgol uno.

Roedd y prifysgolion yn fach, meddai, ac ni fydden nhw'n goroesi yn annibynnol.

Ddim yn goroesi

Yn 么l yr Athro Syr Steve Smith, fyddai Prifysgol Cymru Casnewydd na Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ddim yn gallu goroesi os na fyddai'r tri sefydliad yn uno.

Petai'r ymgynghoriad yn arwain at benderfyniad i uno'r tri sefydliad, dywedodd y gweinidog y byddai'n penodi bwrdd strategol o dan gadeiryddiaeth Geraint Talfan Davies.

Byddai'r bwrdd, meddai, yn cynnwys cynrychiolaeth o'r tri sefydliad, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dywedodd Prifysgol Casnewydd: "Rydym yn croesawu'r ffaith fod y gweinidog yn cefnogi ein trafodaethau 芒 Phrifysgol Morgannwg.

"Byddwn yn ceisio gwybodaeth am sut y bydd ei amserlen yn cydfynd 芒'n trafodaethau."

'Ymosodiad'

Yn 么l llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Angela Burns AC: "Dyma'r ymosodiad ola' ar Brifysgol Fetropolitan Caerdydd wrth i'r gweinidog geisio cael enw amheus fel un o'r ychydig weinidogion yn hanes y DU i orfodi diddymiad prifysgol.

"Mae'r gweinidog yn benderfynol o orfodi un o brifysgolion gorau Cymru i uno heb ystyried safbwyntiau'r myfyrwyr.

"Mae ei fwlio'n achosi tipyn o ansicrwydd i'r staff a'r darpar fyfyrwyr."