Lesley Griffiths yn wynebu ACau wedi adroddiad ar y gwasanaeth iechyd

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cynnig o ddiffyg hyder yn y gweinidog ei gyflwyno gan y tair gwrthblaid

Mae'r Gweinidog Iechyd yn wynebu cwestiynau gan ACau a phleidlais o ddiffyg hyder yn y Cynulliad wedi adroddiad ar ddyfodol ysbytai Cymru.

Roedd gweinidogion wedi dweud bod yr adroddiad, a gafodd ei lunio gan academydd, yn brawf diduedd bod angen newidiadau ar y gwasanaeth iechyd.

Ond dangosodd cyfres o e-byst rhwng yr awdur a gweision sifil, ddaeth i law 麻豆官网首页入口 Cymru, fod 'na le i gwestiynu annibyniaeth yr adroddiad.

Fe fydd awdur yr adroddiad, Marcus Longley, hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor iechyd ddydd Mercher.

Mae'r Athro Longley yn economegydd iechyd ym Mhrifysgol Morgannwg.

Roedd o wedi cysylltu gydag uwch swyddogion yn adran Mrs Girffiths yn gofyn am "ffactorau allweddol" wrth baratoi'r adroddiad.

Gwadu

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r academydd a'r llywodraeth o gyd-weithio ar yr adroddiad sy'n cefnogi'r galw am ad-drefnu dadleuol posib.

Maen nhw'n dweud bod y cysylltiad rhwng yr awdur a swyddogion y llywodraeth yn mynd yn rhy bell.

Mae'r Athro Longely a'r gweinidog wedi gwadu hynny'n bendant.

Cafodd cynnig o ddiffyg hyder yn y gweinidog ei gyflwyno gan y tair gwrthblaid.

Fe fydd y bleidlais yn Y Senedd ddydd Mercher.

Ond bydd rhaid i aelod o'r Blaid Lafur gyd-weld a'r gwrthbleidiau er mwyn i'r cynnig gael ei gymeradwyo.

Hyd yn oed petai'r cais yn llwyddo dydi'r canlyniad ddim yn orfodol - does dim gorfodaeth ar y gweinidog i ymddiswyddo nac ar y Prif Weinidog i'w diswyddo.

Mae'r gwrthbleidiau yn annhebyg iawn o ennill y bleidlais.

Presenoldeb

Ond mae nifer yn y gwasanaeth iechyd yn poeni o ddifri am effaith y ffrae ar hyder y cyhoedd yn yr ailwampio sydd i ddod.

Dyma sesiwn ola'r cynulliad cyn gwyliau'r haf ac mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wedi dweud y bydd bob un o'r 14 aelod o'r blaid yn y siambr ar gyfer y bleidlais.

"Mae'n ddyledus ar yr arweinwyr eraill i wneud yn si诺r bod eu haelodau yn bresennol ac yn pleidleisio yn unol 芒 hynny," meddai.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, fod 'na bryder gwirioneddol yn yr adran.

"Rydym angen gweinidog iechyd sydd 芒 gafael ar ei hadran, sy'n gwybod beth mae'r swyddogion yn ei wneud a chynnig arweiniad cryf."