Deiseb gyda 4,000 o enwau am gadw'r ysbyty ar agor ym Mlaenau Ffestiniog

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ddeiseb o blaid cadw'r ysbyty ar agor

Mae deiseb gyda thua 4,000 o enwau arni yn cael ei chyflwyno i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ers 2005 mae trigolion Blaenau Ffestiniog a'r cylch wedi bod yn brwydro i achub eu hysbyty cymunedol.

Roedd adroddiad am ddyfodol Ysbyty Coffa Bro Ffestiniog ym Mlaenau Ffestiniog yn gynharach eleni yn argymell ei droi'n ganolfan adnoddau lleol heb welyau i gleifion dros nos.

Byddai hynny'n golygu gwasanaeth gofal diwedd oes a nyrsio yn y gymuned, chemotherapi a phelydr-X.

Byddai cleifion ag angen gwely dros nos yn gorfod mynd i Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, 13 milltir i ffwrdd.

Mae disgwyl i'r bwrdd iechyd gyfarfod ddydd Iau gyda phosibilrwydd y bydd cyhoeddiad am ddyfodol yr ysbyty.

'Teimladau cryf'

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty, Geraint Vaughan Jones, fod y ddeiseb yn erbyn y bwriad i israddio'r ysbyty neu ei gau.

"Mae'r teimladau lleol yn gryf iawn," meddai.

"Rydan ni wedi bod yn ymladd y bygythiad i'r ysbyty er 2005 gyda'r hen fwrdd, a'r un dadleuon sydd 'na o hyd.

"Dydan ni ddim am golli gwelyau yno. Mae angen gwelyau yn yr ysbyty ar bobl yr ardal.

Cafodd adroddiad am ddyfodol yr ysbyty, a godwyd yn 1925 gan arian chwarelwyr lleol, ei wneud gan Dr Edward Roberts o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar gais y cyn-weinidog iechyd, Edwina Hart.

Mae ymgyrchwyr wedi honni bod yr adroddiad yn "arwynebol ac yn amhenodol."