Canmol gwelliant adran addysg Cyngor Blaenau Gwent

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i'r comisiynwyr barhau yn y sir tan fis Mawrth

Mae'r Gweinidog Addysg wedi croesawu ymdrechion i wella gwasanaethau plant ac addysg Blaenau Gwent.

Roedd yr awdurdod addysg yn wynebu mesurau arbennig ym mis Gorffennaf 2011 ar 么l adroddiad Estyn.

Fe apwyntiodd Leighton Andrews gomisiynwyr i redeg ysgolion y sir.

Wedi adolygiad dywedodd y gweinidog fod yr awdurdod addysg yn symud i'r cyfeiriad cywir ond bod angen gwaith allweddol.

Yr awdurdod addysg oedd yr un cyntaf mi wynebu mesurau arbennig ar 么l i'r adroddiad gyfeirio at fethiannau rheoli "systematig".

Roedd yr adroddiad yn nodi nad oedd cynnydd plant a phobl ifanc "yn foddhaol" a bod y safonau "yn llawer is na'r disgwyl".

Sylweddol

Mae'r ddau gomisiynydd, cyn-bennaeth Ysgol Gyfun Treorci, Bethan Guilfoyle, a chyn-Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam, Isobel Garner, wedi bod yn anfon adroddiadau misol i'r gweinidog.

Dywedodd Mr Andrews fod ymdrechion sylweddol staff ar bob lefel ac asiantaethau wedi arwain at newid.

"Er bod y cynnydd ym Mlaenau Gwent yn araf ar y dechrau yn achos yr argymhellion, mae 'na gynnydd gwell wedi bod yn ddiweddar ...

"... mae gwaith allweddol i'w wneud o hyd gan yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau cynnydd cynaliadwy."

Mae disgwyl i Estyn ail-archwilio yn gynnar yn 2013.

Dywedodd y cyngor eu bod yn ennill tir wrth gyflwyno cynlluniau gwella llythrennedd a rhifedd ymhlith disgyblion y sir.

'Cyffrous'

"Rydym yn gwneud hyn gyda chefnogaeth y comisiynwyr."

Mae'r cyngor wedi dweud bod presenoldeb disgyblion yn gwella a bod yr ystadegau cynnar yn dangos bod llythrennedd a rhifedd yng nghyfnod allweddol 2 a 3 yn gwella.

"Rydym yn benderfynol o barhau i wneud mwy i sicrhau bod y gwelliannau yn gynaliadwy ac mae 'na ddatblygiadau cyffrous i ddod.

"Hefyd rydym yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwasanaeth safonol a darparu gwelliannau i helpu plant gyflawni mwy yn yr ysgol."