Dirwasgiad: 'Angen cymryd camau'

Disgrifiad o'r llun, George Osborne: Yr ystadegau'n 'siomedig'

Mae arweinwyr busnes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau wedi i ystadegau awgrymu bod y dirwasgiad yn gwaethygu.

Yn 么l manylion Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP), rhwng Ebrill a Mehefin eleni fe grebachodd yr economi 0.7%.

Doedd dim manylion ar gyfer Cymru ar gael ond dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach fod mwy o ddiweithdra'n golygu bod y sefyllfa'n waeth yng Nghymru.

"Fydd yr argyfwng ddim yn lleihau nes bod busnesau bach yn ddigon hyderus i ehangu a chyflogi staff," meddai Iestyn Davies, pennaeth materion allanol y ffederasiwn yng Nghymru.

'Siomedig'

"Mae'n hanfodol fod cymorth ariannol yn cyrraedd y rhai sy' ei angen fwya'," meddai.

Yn 么l arbenigwyr, roedd sawl rheswm am y crebachu, gan gynnwys y tywydd gwael a g诺yl banc estynedig Jiwbil卯 Diemwnt y Frenines.

Dywedodd y Canghellor, George Osborne, fod yr ystadegau'n "siomedig".

A dywedodd Owen Smith, llefarydd Y Blaid Lafur ar Gymru, fod y canlyniadau'n "bryderus iawn".

"Rydym yn y sefyllfa waetha ers y 1950au a does dim angen mwy o esgusodion oddi wrth y Llywodraeth Glymblaid.

Gwendidau

"Yn y gorffennol mae 'na nifer o esgusodion wedi bod gan y Canghellor ac mae Ysgrifennydd Cymru wedi bod yn ceisio beio Llywodraeth Llafur Cymru.

"Mae'r canlyniadau yn dangos yr angen i'r llywodraeth weithredu ar frys."

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards fod yr ystadegau'n dangos gwendidau'r economi.

"Rydym yn talu'r pris am fethu 芒 buddsoddi ar ddechrau'r argyfwng."