麻豆官网首页入口

Gweinidogion addysg yn anhapus

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews AM
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Leighton Andrews yn cwyno am ddiffyg cyfathrebu

Mae gweinidogion addysg yng Nghymru a Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu llythyr o gerydd at Michael Gove AS, Gweinidog Addysg San Steffan.

Yn y llythyr mae Leighton Andrews AC a John O'Dowd MLA yn son am bryderon "am y diffyg rhybudd sy'n cael ei roi cyn cyhoeddi polis茂au ar gymwysterau."

Er bod y polis茂au yn ymwneud ag arholiadau yn Lloegr - mae Mr Andrews a Mr O'Dowd yn dweud byddai yna effaith ar arholiadau TGAU a lefel A yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

Mae'r Gweinidogion yn pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod "cyfathrebu cyson yn digwydd cyn gwneud cyhoeddiadau am gymwysterau sydd dan ofal mwy nag un Gweinidog.

"Byddai hynny'n helpu i osgoi unrhyw ddryswch a phryder i'r rheini y mae newidiadau mewn polisi yn effeithio arnynt, trwy sicrhau nad yw'r negeseuon sy'n dod o'r tair gweinyddiaeth yn rhai cymysg."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan mai mater i'r sefydliadau datganoledig oedd hi i wneud beth oedd orau wrth reoli eu cyfundrenau addysg, gan ychwanegu mai mater i'r Adran Addysg yn San Steffan oedd hi i wneud beth oedd orau o ran Lloegr.