Bwrdd iechyd yn amddiffyn ad-drefnu

Ffynhonnell y llun, SPL

Disgrifiad o'r llun, Dywed y bwrdd y bydd yr ad-drefnu yn gwella gwasanaethau

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi amddiffyn cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.

Mae nifer o grwpiau cymunedol ac ymgyrchwyr wedi beirniadu cynlluniau allai arwain at gau tri ysbyty cymunedol yn Nhregaron, Mynydd Mawr ac Aberaeron.

Dywed y bwrdd y bydd 拢40 miliwn yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau newydd.

Yn 么l arweinwyr y Ceidwadwyr yn y cynulliad, mae'r toriadau yn ganlyniad i Lafur yn torri cyllidebau iechyd.

Cyhoeddodd y bwrdd iechyd ei gynlluniau ddydd Llun. Ymhlith y newidiadau bydd datblygu gwasanaethau'r galon yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ac uned ddibyniaeth uchel i blant.

Mae'r bwrdd yn gyfrifol am ardaloedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac un bwriad arall yw datblygu canolfan ragoriaeth orthopaedig yn ne'r ardal.

'Gweledigaeth syml'

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Mae ein gweledigaeth yn syml - i ddarparu gwasanaeth iechyd integredig gydag 80% o wasanaethau GIG yn cael eu darparu'n lleol drwy weld timau cymdeithasol, cymunedol a iechyd cynradd yn gweithio gyda'i gilydd.

"Bydd hyn yn golygu gwell mynediad at brofion diagnostig fel pelydr-X, profion gwaed a sganiau, a hefyd ystod eang o wasanaethau arbenigol i gleifion allanol oedd ond ar gael mewn ysbytai yn flaenorol."

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer canolfannau newydd yn Aberaeron, Caerfyrddin, Cross Hands, Crymych a Hendy-gwyn ar Daf.

Dywed y bwrdd y bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hymestyn, gydag uned gofal dwys yn cael ei sefydlu yng Nghaerfyrddin.

Mae'r bwrdd wedi amddiffyn cynlluniau i newid uned ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli, gan ddweud bod tua 80% o bobl sy'n mynd yno yn cael eu hystyried yn fan anafiadau.

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynullad, y byddai'r newidiadau yn gweld "gostyngiad o 20% yn nifer y gwelyau, uned ddamweiniau Llanelli yn cau a thri ysbyty yn cau".

Rhoddodd y bai ar Lywodraeth Cymru am "gwtogiad o 拢534m mewn cyllid" i'r GIG.

"Maen nhw hefyd wedi methu 芒 denu staff meddygol allweddol. Mae modd gwyrdroi'r ddwy sefyllfa yma, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn fodlon gwneud hynny," meddai.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths ei bod yn "hen bryd" gweld newidiadau yn y gwasanaethau iechyd.