麻豆官网首页入口

Ffrae am luniau o lofrudd yn Y Lle Celf

  • Cyhoeddwyd
Gwaith David Rees Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tri o'r pedwar llun sydd bellach wedi eu gorchuddio

Mae ffrae wedi bod am ddarn o gelf sy'n cael ei arddangos yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Bro Morgannwg.

Cwynodd Sonia Oatley o Faesteg fod y gwaith yn cynnwys llun o lofrudd ei merch 15 oed, Rebecca, a bod lluniau eraill yn ymwneud 芒'r llofruddiaeth.

Erbyn hyn mae'r lluniau wedi cael eu gorchuddio.

Cafodd y ferch ysgol ei llofruddio mewn coedwig ger Abercynffig. Roedd Joshua Davies wedi ei denu i fan lai na 10 milltir o Faes yr Eisteddfod yn Lland诺 cyn ei lladd.

Roedd y fam wedi bwriadu dod i'r Maes ddydd Iau ond fe glywodd hi am gynnwys gwaith yr artist David Rees Davies ac mae hi wedi newid ei meddwl.

18 o bortreadau

Mewn llythyr at drefnwyr yr Eisteddfod fe ddywedodd Mrs Oatley fod y penderfyniad i arddangos y lluniau "yn warthus" a gofynnodd i drefnwyr i beidio 芒'u dangos.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Davies ei garcharu am oes

Roedd wedi gofyn yn y llythyr beth fyddai wedi digwydd petai hi a'i phlant wedi cyrraedd y Maes, mynd i'r Lle Celf a dod wyneb yn wyneb gyda llun o'r bachgen a laddodd Rebecca.

Cafodd Davies ei garcharu am oes am lofruddiaeth.

Darn o waith o'r enw ''Pobl rwy'n eu 'nabod; Pobl roeddwn i'n arfer eu 'nabod; a Phobl fyddai'n well 'da fi beidio eu 'nabod" yw'r hyn sydd dan sylw.

Mae'n cynnwys cyfres o 18 o bortreadau, i gyd o wynebau pobl.

Roedd pedwar o'r lluniau yn cynnwys portreadau o Davies a hyd yn oed Rebecca ei hun.

Mae'n ymddangos bod un o'r lluniau yn dangos Rebecca gyda gwaed arni tra bod y gair "cariad" wedi cael ei ysgrifennu ar wyneb Davies mewn un o'r lluniau eraill.

Ar ei wefan mae'r artist yn disgrifio'r darn fel un sy'n dogfennu a dathlu'r bobl y mae e'n ei garu ac sydd wedi cael effaith bositif ar ei fywyd - yn ogystal 芒 phobl y mae e a chymdeithas yn eu cas谩u, unigolion sy'n ''sugno'r bywyd allan ohonon ni gyd''.

Mae gweddill lluniau'r artist ac eithrio'r pedwar sydd wedi eu gorchuddio i'w gweld yn Y Lle Celf o hyd.

Gorchuddio

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod bod yr artist wedi cyflwyno 18 o baentiadau yn ei gais ar gyfer arddangosfa agored Y Lle Celf eleni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhybudd ar ddrws Y Lle Celf

"Nid oedd gennym ni fel Eisteddfod wybodaeth am bwy oedd y bobl hyn pan dderbyniwyd y cais na phan ddetholwyd y gwaith ar gyfer yr arddangosfa eleni.

"Yn ystod wythnos yr Eisteddfod rydym wedi darganfod bod pedair o'r delweddau yn ymwneud 芒 llofruddiaeth leol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

"Wedi trafodaeth gyda'r teulu drwy'u Haelod Seneddol a'r artist, gorchuddiwyd y pedair delwedd a rhoddwyd nodyn yn Y Lle Celf i egluro pam."

Mewn datganiad i wasanaeth newyddion Wales Online dywedodd yr artist fod ei luniau yn "fwriadol amwys", gan ychwanegu "does neb yn adnabod neb yn iawn ar adegau, ddim hyd yn oed eich teulu, eich ffrindiau neu eich cymydog."