麻豆官网首页入口

Pryderon am uned fabanod

  • Cyhoeddwyd
Babi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 36 o fabanod y flwyddyn yng ngogledd Cymru angen gofal dwys allan o gyfanswm o thua 7,300 o enedigaethau

Mae gr诺p cymorth i rieni gyda babanod sydd angen gofal ysbyty dwys yn gwrthwynebu cynlluniau i'w symud i Loegr.

Eu pryder yw y bydd rhieni'n gorfod teithio yn rhy bell os bydd yr uned yn symud i Gilgwri.

Mae swyddogion iechyd yn dechrau ar gyfnod ymgynghori o 10 wythnos ar gynlluniau i ad-drefnu iechyd yng ngogledd Cymru ddydd Llun.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys cau ysbytai cymunedol ac unedau man anafiadau, sydd hefyd wedi arwain at wrthwynebiad ymysg y cyhoedd.

Cytunodd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fis diwethaf i ddechrau trafodaethau am y newidiadau yn dilyn adroddiad o adolygiad ddechreuodd yn 2009.

'Cam yn 么l'

Mae aelodau o gr诺p cefnogaeth Uned Gofal Babanod Glan Clwyd, Cuddles, yn gwrthwynebu argymhellion sy'n effeithio ar fabanod newydd anedig sydd angen gofal dwys - gwasanaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dywedodd datganiad gan aelodau eu bod yn "protestio'n gryf" a bod y newid yn "gam yn 么l".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gallai Ysbyty Coffa Ffestiniog gau fel rhan o'r cynlluniau

Eu pryder pennaf yw y bydd rhieni'n wynebu taith rhy bell o'u cartrefi yn y gogledd os bydd eu babanod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Nod y bwrdd iechyd yw datblygu un gwasanaeth i fabanod y gogledd sydd angen "lefel gymhleth o ofal".

Mae hynny'n cynnwys 36 o fabanod allan o'r 7,300 o enedigaethau yn y rhanbarth yn flynyddol, ac fe allai'r gofal gael ei gomisiynu o'r ysbyty ar Lannau Mersi.

Dywed y bwrdd y bydd tri ysbyty - Glan Clwyd, Maelor ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor - yn parhau i ddarparu gofal dwys tymor byr ynghyd ag unedau gofal arbennig ac unedau dibyniaeth uchel i fabanod, ond y bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei sefydlu i fabanod sydd angen lefel pellach o ofal.

Staffio

Dywed y bwrdd fod safonau cenedlaethol i wasanaethau babanod yng Nghymru a'r DU, ac "nid yw ein gwasanaethau yn cwrdd 芒'r safonau ac mae trafferthion penodol gyda lefelau staffio".

"Byddai sefydlu un uned fabanod fawr yng Ngogledd Cymru yn anodd o safbwynt recriwtio digon o staff, ac yn heriol iawn yn ariannol."

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r cyntaf yng Nghymru i amlinellu cynlluniau i wneud arbedion.

Mae'n rhagweld diffyg o 拢64.6 miliwn, sef yr ail uchaf yng Nghymru.

Ond dywed y bwrdd mai prif gymhelliad yr adolygiad oedd gwella gofal i gleifion yn dilyn proses hir o adolygu.

Bydd nifer o ysbytai ac unedau cymunedol yn cau os bydd yr adroddiad yn cael ei weithredu yn dilyn yr ymgynghoriad.

Byddai gwelyau o'r ysbytai dan sylw yn cael eu symud o ysbytai eraill gerllaw.

Ymhlith y lleoedd fydd yn cau yn yr argymhellion mae Ysbyty Blaenau Ffestiniog, Ysbyty Cymunedol Llangollen, ac unedau yn ysbytai'r Wyddgrug, Y Fflint, Prestatyn, Bae Colwyn a Rhuthun.

Mae trigolion ymhob un o'r ardaloedd hynny wedi mynegi eu pryderon am y cynlluniau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gwelyau yn symud o Ysbyty Cymunedol Llangollen i'r Waun

Cyfle i ymateb

Dywedodd adroddiad y bwrdd iechyd fis diwethaf y bydd cau'r ysbytai ac unedau yn cryfhau'r ddarpariaeth yn y 10 ysbyty canolog ar draws y rhanbarth, ac yno y bydd ffocws y cymunedau.

Mae'r deg yn cynnwys y tri phrif ysbyty - Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor - ond hefyd rhai llai fel Dolgellau, Llandudno, Tremadog a Glannau Dyfrdwy.

Mae cyrff arolygu iechyd ar Gyngor Iechyd Cymunedol Betsi Cadwaladr yn annog pobl i ddweud eu dweud ar y cynlluniau, ac mae'r bwrdd iechyd yn cynnig nifer o ffyrdd i bobl wneud hyn.

Un o'r ffyrdd yw , ac mae'r cyfnod ymgynghorol yn para am 10 wythnos o ddydd Llun, Awst 20.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol