麻豆官网首页入口

'Angen gwella sgiliau ar gyfer y gweithle'

  • Cyhoeddwyd
Hyfforddiant cyfrirfiadurol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen gwella sgiliau y rhai sy'n gadael ysgol

Mae arolwg o fusnesau ar draws y DU yn awgrymu nad yw llawer ohonyn nhw'n teimlo fod gan bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol y sgiliau digonol ar gyfer y gweithle.

Fe gafodd penaethiaid 140 o gwmn茂au yng Nghymru eu holi gan Ffederasiwn y Busnesau Bychan fel rhan o arolwg ehangach ar draws y DU.

Dwedodd 80% eu bod yn teimlo y dylai sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu fod yn well.

Dywed yr arolwg y dylai ysgolion wneud mwy i baratoi disgyblion ar gyfer byd gwaith a bod diffyg ymgynghori o ran arolygaeth y system gymwysterau.

Caiff yr arolwg ei gyhoeddi ar y diwrnod y mae miloedd o ddisgyblion yn derbyn eu canlyniadau TGAU.

Mae Llywodraeth Cymru yn arolygu'r system gymwysterau ar gyfer disgyblion ar hyn o bryd.

Mae'r bwrdd arolygu yn cynnwys prifathrawon, penaethiaid colegau, is-ganghellor prifysgol a phobl fusnes ac maen nhw'n ystyried pa mor wahanol i weddill y DU y dylai'r system gymwysterau fod.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am i'r system gymwysterau "ateb gofynion cyflogwyr a dysgwyr".

'Hyfforddi staff'

Y Ffederasiwn yw sefydliad mwyaf blaengar busnes yn y DU sy'n cynnwys 10,00 o aelodau yng Nghymru.

Mae'r ffederasiwn am i ddisgyblion ddatblygu sgiliau fel ysgrifennu brasluniau bywyd, cadw amser, datrys problemau a gweithio mewn t卯m i helpu cyflogwyr a rhoi gwell dealltwriaeth i bobl ifanc o'r farchnad gyflogaeth.

Dywedodd cadeirydd uned polisi Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru, Janet Jones: "Mae busnesau yn fwy na pharod i fuddsoddi amser ac arian i hyfforddi staff mewn sgiliau sy'n berthnasol i'r swydd.

"Ond maen nhw'n disgwyl fod ganddyn nhw'r sgiliau sylfaenol pan maen nhw'n dechrau'r swydd.

"Yn amlwg mae'n bryderus i weld fod busnesau wedi amlygu rhifedd, llythrennedd, a sgiliau craidd ar gyfer y gweithle fel cyfathrebu fel y prif broblemau."

'Sgiliau rhifedd a llythrennedd'

Ychwanegodd Mrs Jones fod y Ffederasiwn yn croesawu adolygiad o gymwysterau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Ond pwysleisiodd fod yn rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau sicrhau eu bod yn trafod gweithredu unrhyw newidiadau gyda chyflogwyr.

"Yn y pen draw, mae angen system gymwysterau ar Gymru sy'n addas at y diben ac sy'n hawdd i'w deall ac sy'n ateb gofynion cyflogwyr yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cyflogwyr wedi croesawi'r cyflwyniad o'r Fagloriaeth Gymreig.

"Mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn cael y cymhwyster yma sy'n cynnwys modiwl addysg sy'n berthnasol i waith ac sydd wedi ei greu i ddatblygu'r sgiliau rydym yn gwybod bod cyflogwyr ac addysg uwchradd yn eu gwerthfawrogi.

"Un o brif amcanion yr arolygiad yw ystyried os oes gennym system gymhwysterau sy'n asesu sgiliau rhifedd a llythrennedd yn ddigonol ac sy'n paratoi pobl ifanc yn ddigonol iddyn nhw ddechrau gweithio neu symud ymlaen i'r lefel nesaf o addysg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol