麻豆官网首页入口

Cronfa i adnewyddu tai gwag

  • Cyhoeddwyd
Tai gwag
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Llywodraeth Cymru bod 20,000 o dai neu fflatiau gwag yng Nghymru

Gall pobl sy'n bwriadu adnewyddu tai gwag yng ngogledd Cymru wneud cais am gymorth ariannol i wneud hynny fel rhan o gynllun i geisio taclo prinder tai.

Mae cynllun Troi Tai'n Gartrefi gan Lywodraeth Cymru yn darparu benthyciad di-log o hyd at 拢25,000 i bobl adnewyddu tai a fflatiau.

Y nod yw ceisio defnyddio'r 20,000 o dai gwag yng Nghymru er mwyn ateb y galw cynyddol am gartrefi.

Mae gan y cynllun gronfa o 拢2.35 miliwn i rannu rhwng perchnogion a datblygwyr yng ngogledd Cymru.

Er mwyn bod yn gymwys i'r cynllun rhaid i'r t欧 fod wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy.

Gall pob eiddo dderbyn benthyciad o hyd at 拢25,000, ond mae modd i bob unigolyn sy'n gwneud cais dderbyn mwyafswm o 拢150,000.

'Adnodd wedi ei wastraffu'

Dywedodd y Cynghorydd David Smith o Gyngor Sir Ddinbych ei fod yn croesawu'r 拢300,000 o fenthyciadau sydd ar gael yn y sir.

Dywedodd y byddai'n "gymorth mawr i droi tai gwag yn gartrefi i bobl ar draws y sir".

Dywedodd y Gweinidog Tai, Huw Lewis AC, bod tai gwag yn "adnodd wedi ei wastraffu".

"Mae tua 20,000 o dai ar draws Cymru sydd wedi bod yn wag ers tro gan amddifadu pobl Cymru o gartrefi ac achosi pla yn y cymunedau," meddai.

"Mae darparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel yn flaenoriaeth ar draws Cymru, ac rydym wedi bod yn ystyried sawl ffordd o'n cynorthwyo i ateb y galw cynyddol.

"Rydym yn gobeithio y bydd cynllun Troi Tai'n Gartrefi yn annog landlordiaid, perchnogion tai a datblygwyr i wneud cais, a throi tai gwag yn gartrefi."