Bwrdd Iechyd yn cwtogi ar wariant goramser

Ffynhonnell y llun, Science

Disgrifiad o'r llun, Dywed y bwrdd na dderbynwyd unrhyw arian ychwanegol

Mae'n rhaid i fwrdd iechyd dorri'n 么l ar wariant goramser a staff asiantaeth ar 么l gorwario bron i 拢7.5 miliwn yn ystod pedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bod y sefyllfa ariannol bresennol "yn achos pryder gwirioneddol".

Mae gan y bwrdd gyllid o 拢1.2 biliwn ond mae angen gwneud arbedion eleni o 拢45 miliwn.

Mewn adroddiad i'r bwrdd, mae'n nodi torri'n 么l ar wariant goramser a staff asiantaeth.

Mae hynny wedi lleihau'r costau misol, gyda'r costau ar gyfer mis Gorffennaf yn 拢1.5 miliwn.

Dywedodd y cyfarwyddwr cyllid, Eifion Williams, bod y bwrdd iechyd yn wynebu gwneud arbedion yn wyneb derbyn dim ceiniog ychwanegol am yr ail flwyddyn yn olynol gan Lywodraeth Cymru.

Her

"Mae gan y bwrdd her i gychwyn y flwyddyn ariannol gyda gorwariant o 拢7.468 miliwn hyd ddiwedd mis Gorffennaf.

"Roedd y gorwariant ym mis Gorffennaf yn 拢1.53 miliwn, gostyngiad misol yn chwarter cyntaf y flwyddyn."

Dywedodd bod y bwrdd wedi wynebu lefel uchel o ofal annisgwyl a gwasanaeth trawma ar ddechrau'r flwyddyn, ac er bod hynny wedi lleihau, mae'r effaith ariannol "yn anodd" i'w adfer.

Dywedodd hefyd y bydd cyfleoedd pellach i wneud arbedion a bod angen canfod ffyrdd i sicrhau llai o orwariant erbyn diwedd y flwyddyn.

"Bydd rhaid i ni barhau i wneud arbedion am weddill y flwyddyn ariannol," meddai.

Ac fe ychwanegodd, Prif Weithredwr y bwrdd, Paul Roberts, bod y sefyllfa "yn fater o wir bryder".