麻豆官网首页入口

Talcen caled ariannol i'r GIG

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud y bydd byrddau iechyd Cymru yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Dywedodd Tina Donnelly, cyfarwyddwr yr RCN yng Nghymru, bod adrannau damweiniau ar draws y wlad wedi gweld cynnydd aruthrol yn y galwadau am eu gwasanaeth.

Daeth ei sylwadau wrth i fyrddau iechyd Cymru ddatgelu gorwario ar eu cyllidebau.

Mae hynny wedi arwain at swyddogion iechyd yn gorchymyn toriadau i daliadau goramser ac ar wariant ar staff asiantaeth.

'Pryder mawr'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ddydd Iau eu bod yn cymryd camau gan fod eu sefyllfa ariannol ar hyn o bryd "yn destun pryder mawr".

Yn y pedwar mis hyd at fis Gorffennaf, roedd y gorwariant yn 拢7.5 miliwn.

Roedd y darlun yn ddigon tebyg ar draws Cymru.

  • Roedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi gorwario 拢12m hyd at Orffennaf, ac mae angen cyrraedd nod o 拢72m o arbedion erbyn diwedd y flwyddyn;

  • Am y tri mis hyd at Fehefin, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gorwario 拢8.6m, ac angen dod o hyd i arbedion o 拢64.4m;

  • I Gwm Taf, y gorwariant yw 拢2.5m gyda tharged o 拢23.7m o arbedion;

  • Mae gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ddiffyg o 拢4m a nod i'w gyrraedd o 拢36m;

  • Cofnododd Bwrdd Iechyd Powys 拢3.8m o orwario, gydag arbedion o 拢19m eu hangen.

'Digyffelyb'

"Y broblem yw nad oes modd i bobl beidio bod yn s芒l, felly mae'r galw yno," meddai Ms Donnelly.

"Yn anffodus i'r GIG ac i'r byrddau iechyd, maen nhw wedi gweld galw digyffelyb am wasanaethau argyfwng tebyg i'r hyn sydd i'w weld yn y gaeaf yn parhau dros yr haf.

"Os nad oes arian i dalu am y gwasanaethau yna, fe fydd rhaid cael newidiadau eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn os yw'r byrddau iechyd am gael dau ben llinyn ynghyd."

Mae'r trafferthion sy'n wynebu'r byrddau iechyd wedi arwain at rhai yn ystyried ad-drefnu eu gwasanaethau, gan gynnwys bwrdd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

'Gwasanaethau addas'

Ddydd Iau daeth cannoedd o bobl i gwrdd ag aelodau o'r Bwrdd ym Mlaenau Ffestiniog i brotestio yn erbyn cynlluniau a fyddai'n gweld ysbyty'r dref yn cau i bob pwrpas.

Ond wrth drafod gyda'r protestwyr, mynnodd Sally Baxter o'r bwrdd nad mater o arbed arian yn unig oedd y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

"Maen nhw'n newidiadau yr ydym am eu gwneud beth bynnag," meddai.

"Mae'r cyd-destun ariannol, i fod yn blwmp ac yn blaen, yn golygu y bydd rhaid gwneud newidiadau er mwyn ymdopi.

"Ond mae hyn hefyd yn ymwneud 芒 gwneud newidiadau fydd yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu bod yn addas i'r dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol