麻豆官网首页入口

Newid cwricwlwm i wella llythrennedd

  • Cyhoeddwyd
Caroline Greaves yn dysgu gwers yn Ysgol Glyn Derw Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd athrawon Glyn Derw yn defnyddio gwersi hanes a daearyddiaeth i ddysgu llythrennedd

Mae ysgol uwchradd yng Nghaerdydd wedi newid cwricwlwm yr ysgol er mwyn mynd i'r afael 芒 llythrennedd gwael ymysg disgyblion ifanc.

Bydd disgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Glyn Derw, Caerau, yn cael gwersi llythrennedd a rhifedd am hanner eu hamserlen yn lle pynciau traddodiadol eraill.

Dywedodd y pennaeth gweithredol, Geraint Rees, bod yr ysgol yn wynebu her gan fod 45% o'r disgyblion Blwyddyn 7 yn anllythrennog, a bod dros hanner disgyblion yr ysgol ag oed darllen sy'n is na'u hoed go iawn.

Dywedodd bod y cwricwlwm traddodiadol yn cael ei addasu ar gyfer disgyblion iau er mwyn sicrhau bod sgiliau darllen yn gwella.

"I flwyddyn saith, am ran fwyaf eu hamserlen nhw, y geiriau rhifedd a llythrennedd sydd ar yr amserlen, nid Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth, Mathemateg, Gwyddoniaeth," meddai.

'Pwnc fel cyfrynwg'

"Felly, mae'r adran Wyddoniaeth, a'r adran Fathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth wedi dod 芒 chwricwlwm cyt没n at ei gilydd fydd yn gwneud yn si诺r mai rhifedd sy'n cael blaenoriaeth.

"Wedyn, mae'r dyniaethau a Saesneg, gyda chefnogaeth y Ffrangeg a'r Gymraeg yn edrych ar ddatblygu llythrennedd, fel y prif ffocws.

"Felly, nid dysgu hanes a gobeithio bigan nhw llythrennedd lan yw'r pwrpas, dysgu llythrennedd a defnyddio hanes fel y cyfrwng," ychwanegid.

Cafodd perfformiad Glyn Derw ei ddisgrifio fel "anfoddhaol" yn yr adroddiad diweddaraf gan Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion.

Cafodd yr ysgol ei gosod ym mand 5 yn rhestr berfformiad ysgolion Cymru - y band isaf.

Nododd Estyn bod 79.5% o'r disgyblion yn byw yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac mae nifer y disgyblion sy'n gallu hawlio cinio ysgol am ddim yn 38%, sydd lawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 17.4%.

Mae'r athrawon yn dweud bod dulliau addysgu confensiynol wedi methu sicrhau bod disgyblion Glyn Derw yn cyrraedd eu potensial gan fod sgiliau llythrennedd mor wael.

Ysgolion eraill

Y bwriad yno ac yn ei chwaer ysgol, Coleg Cymunedol Llanfihangel, yw trawsnewid y cwricwlwm i ddisgyblion Blwyddyn 7, ac adolygu'r cynnydd yn gyson.

Disgrifiad,

Adroddiad Gwenfair Griffith

Y gobaith wedyn yw y bydd y dulliau newydd yn effeithio ar ganlyniadau cyfnod allweddol 3 a 4 maes o law.

Dywedodd Anna Brychan, cyfarwyddwr undeb yr NAHT yng Nghymru, y gallai'r dull newydd gael ei ddefnyddio gan ysgolion eraill.

"Rwy'n credu bo fe'n ddatblygiad diddorol iawn.

"Mae 'na nifer fawr o ysgolion sydd yn arbrofi gyda ffyrdd gwahanol o gyflwyno gwybodaeth i ddisgyblion.

"Maen nhw'n edrych ar y disgyblion sy'n dod mewn i'r ysgol ac yn gweld ac yn gweld i ba raddau allan nhw addasu'r cwricwlwm a darparu'n benodol ar eu cyfer nhw.

"Rwy'n credu bydd pobl yn diddori'n fawr wrth i'r syniad yma ddatblygu ac y bydd 'na ddilyn mawr ar y canlyniadau fydd yn deillio ohono fe."

Codi safonau

Dywedodd hefyd y dylai ysgolion cynradd gael eu rhyddhau o'r cwricwlwm hefyd er mwyn gwella safon llythrennedd a rhifedd o oedran iau.

"Rwy'n credu mai'r peth pwysig i edrych arno fe, yw'r graddau y gallwn ni ryddhau rhai o'r gofynion sydd ar ein hysgolion ni ar hyn o bryd, i ganiat谩u lle i feddylfryd newydd fel hwn i daclo problemau penodol sy'n wynebu ysgolion penodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwelodd Glyn Derw gynnydd sylweddol yn eu canlyniadau TGAU yn ddiweddar

"Rwy'n credu mai'r tric fan hyn fydd sicrhau bod ysgolion yn gallu ymateb i'w disgyblion nhw a darparu'n benodol a darparu'n benodol ar eu cyfer nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i godi safonau llythrennedd gyda nifer o gynlluniau.

"Rydym yn gwybod bod digon o esiamplau o addysgu a dysgu llythrennedd ar draws Cymru, ond rydym am sicrhau bod ymarfer da yn cael ei ailadrodd ar draws Cymru fel bod disgyblion yn datblygu'r sgiliau sydd mor hanfodol i lwyddiant yn y dyfodol," meddai llefarydd.

"Un o brif dargedau ein Rhaglen Llythrennedd Cenedlaethol yw cefnogi athrawon o bob pwnc ac ymhob rhan o'r maes addysg i fod yn athrawon llythrennedd."

Llynedd, fe gyflwynodd Ysgol Glyn Derw fesurau brys i geisio gwella'u canlyniadau TGAU - mesurau yn cynnwys dosbarthiadau ychwanegol ar 么l ysgol a monitro'r disgyblion yn agos. Drwy'r mesurau hynny, mae'r t卯m rheoli'n dweud i'r ysgol gael eu canlyniadau TGAU gorau ers blynyddoedd.

Fe gafodd 59% o ddisgyblion yr ysgol o leiaf bum gradd A i C - 33% oedd y canran yn 2011. Ond, yn 么l Geraint Rees, dyw'r mesurau dwys rheiny ddim yn gynaliadwy, ac wrth ddechrau o'r dechrau gyda blwyddyn 7, mae'r ysgol yn gobeithio y bydd y ffocws ar lythrennedd yn lledu i weddill yr ysgol hefyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol