麻豆官网首页入口

Leighton Andrews: Newid TGAU yn 'gam yn 么l'

  • Cyhoeddwyd
Leighton AndrewsFfynhonnell y llun, Welsh government
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Leighton Andrews am sustem sy'n hawdd ei deall

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod cynlluniau Llywodraeth San Steffan i gyflwyno cymhwyster gydag un arholiad yn lle TGAU yn "cam yn 么l".

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, wedi cadarnhau'r trefniant newydd i Loegr, gyda'r arholiadau cyntaf ar gyfer cymhwyster newydd yr E-Bacc yn cael eu cynnal yn 2017.

Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu dyfodol cymhwyster Cymru ym mis Tachwedd wedi adolygiad.

Dywedodd Mr Andrews fod llawer o gefnogaeth o hyd i TGAU.

'Ei deall yn hawdd'

Ar Radio 4 dywedodd: "Mae'n swnio i mi fel cam yn 么l yn Lloegr a bod yn onest.

"Nid yw'n ateb ar gyfer y ganrif hon ond yn un gafodd ei lunio yn ail hanner yr 20fed ganrif.

"Yng Nghymru rydym yn cynnal adolygiad llawn o gymwysterau ... ac am gael system gymwysterau y mae cyflogwyr, rhieni a phlant yn ei deall yn hawdd, un sy'n paratoi disgyblion ar gyfer addysg bellach.

"Cafodd TGAU eu cyflwyno gan lywodraeth Geidwadol yn y 1980au ac mae'n frand cryf.

"Dydw i ddim yn gwybod beth fydd canlyniad ein hadolygiad o gymwysterau - efallai y byddwn yn cadw TGAU yng Nghymru."

Ail-asesu

Roedd wedi dweud na fydd Cymru'n dychwelyd i drefn arholiadau tebyg i'r hen lefel-O - fel sy'n cael ei grybwyll yn Lloegr - beth bynnag fydd canlyniad yr adolygiad.

Daw'r newid yn Lloegr wedi dadlau am ganlyniadau arholiadau TGAU Saesneg ac am ba mor llym y cawson nhw eu marcio.

Yng Nghymru gorchmynnodd Mr Andrews y dylid ail-asesu papurau Saesneg Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ac mae disgwyl i ganlyniadau hynny gael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Dywedodd Mr Gove y byddai hyn yn tanseilio hyder yn y cymhwyster.

Ond dywedodd Mr Andrews bod ffyrdd eraill o ddelio gyda'r cynnydd blynyddol mewn graddau, a bod llawer o wybodaeth gamarweiniol wedi cael ei lledu.

"Y cwestiwn mawr yw 'Ydych chi am i'ch cymhwyster cyffredinol cyfan ddibynnu ar un arholiad?'

"Mae ffyrdd eraill o fesur sgiliau. Dyw hi ddim mor syml 芒 phrofi gwybodaeth mewn un arholiad dair awr.

"Yng Nghymru mae gennym y fagloriaeth Gymreig sy'n rhoi sylfaen addysg ehangach ac mae'n cael ei chydnabod gan gymdeithas cyflogwyr y CBI a sefydliadau eraill yng Nghymru fel cymhwyster y bydden nhw am i bobl ifanc ei gael."

'System symlach'

Rhybuddiodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas fod y polisi sydd newydd ei gyhoeddi ar gyfer Lloegr yn golygu fod angen i Lywodraeth Cymru baratoi ar gyfer system arholiadau ar wah芒n i Gymru.

Galwodd am sefydlu un system arholiadau i gymryd lle'r dwsinau o fyrddau arholi sy'n cystadlu 芒'i gilydd, er mwyn sicrhau lefel gyson a thryloyw o gystadlu , fel bod modd sicrhau y caiff myfyrwyr eu profi mor deg ag sydd modd.

Dywedodd Mr Thomas: "Mae Plaid Cymru eisiau gweld system symlach, gyda llai o fyrddau arholi, a llai o farchnadeiddio ar addysg.

"Ar hyn o bryd, ac fel y gwelsom dros yr wythnosau diwethaf gyda'r llanast affwysol a wnaed o bapur Saesneg TGAU yr haf hwn, mae llawer gormod o amwysedd ynghylch gwir ystyr lefelau graddfeydd, ac a ydynt mewn gwirionedd yn mesur cyrhaeddiad.

"Erys cwestiynau i'r Gweinidog eu hateb ar hyn o beth, ond mae'n amlwg fod angen dysgu gwersi ar reoleiddio'r byrddau arholi".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol