Gorymdaith i 'achub' ysbyty cymuned Y Fflint

Disgrifiad o'r llun, Gallai Ysbyty Cymuned Y Fflint gau

Mae cannoedd o ymgyrchwyr o blaid cadw ysbyty cymuned ar agor wedi gorymdeithio i gyfarfod cyhoeddus bwrdd iechyd.

Eisoes mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno dogfen ymgynghorol am ad-drefnu gwasanaethau ysbytai.

Roedd y cyfarfodydd yn Siambr y Cyngor, Y Fflint, am 2pm, 4pm a 6pm fel y gallai'r cyhoedd holi cwestiynau am y cynlluniau ad-drefnu.

Dechreuodd yr orymdaith drwy'r dref am 5pm.

Dywedodd Jack Reece, cadeirydd y mudiad ymgyrchu, fod y cynlluniau diweddara'n fersiwn newydd o hen gynigion Bwrdd Iechyd Sir y Fflint.

"Mae agwedd y bwrdd iechyd wedi bod yn drahaus ...," meddai.

"A dweud y gwir mae'r holl dre' wedi cael hen ddigon a phawb yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd heddiw."

Dywedodd y bwrdd "eu bod yn gweithio at newid gwasanaethau er mwyn gwella gofal y claf" wedi cyfnod adolygu "estynedig a arweiniwyd gan glinigwyr, staff, y cyhoedd a'n partneriaid".

Mae'r bwrdd yn rhagweld diffyg ariannol o 拢64.6 miliwn eleni.

Cau unedau

O dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fe allai ysbytai cymunedol Y Fflint a Blaenau Ffestiniog gau ac fe allai uned m芒n anafiadau sawl ysbyty arall ddiflannu.

Fe fyddai hyn yn effeithio ar ysbytai Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.

Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.

Mae'r argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed fydd yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.

Mae 'na bryder y byddai'r gofal dwys newydd-anedig yn cael ei drosglwyddo dros y ffin.

'Gofidus'

Eisoes dywedodd cynrychiolwyr lleol cymdeithas feddygol y BMA eu bod yn "ofidus".

Ond mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y byddan nhw'n gwrando ar bryderon pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn gneud unrhyw benderfyniadau.

"Mae meddygon teulu yn ofidus iawn ynghylch beth all ddigwydd pe bai nifer y gwelyau mewn ysbytai cymunedol yn cael eu cwtogi," meddai Dr Banfield, cadeirydd adran gogledd Clwyd o Gymdeithas Feddygol Prydain ac obstetrydd ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Mary Burrows fod y newidiadau yn ymwneud 芒 gwella gofal cleifion ac nad oedd hyn yn fater o gost yn unig.

Costau yn sgil prinder staff a chostau cynnal a chadw adeiladau, meddai, oedd y problemau mwyaf yn wynebu'r bwrdd iechyd.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori 10 wythnos ddechrau mis Awst ac fe ddaw i ben ar Hydref 28.