TGAU: Mynnu ymddiheuriad

Disgrifiad o'r llun, Cafodd mwy na 2,300 o'r 34,000 o ddisgyblion yng Nghymru ganlyniad gwell

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu ymddiheuriad gan Ofqual - corff rheoleiddio arholiadau yn Lloegr - wedi i'r corff honni fod y penderfyniad i ailraddio papurau TGAU Saesneg yng Nghymru "芒 chymhelliad gwleidyddol".

Mewn llythyr at Ofqual dywedodd uwchswyddog Llywodraeth Cymru fod sylwadau'r cadeirydd yn "amhriodol, yn annoeth ac yn niweidiol".

Roedd y penderfyniad i orchymyn ailraddio'r papurau yn seiliedig ar argymhellion adroddiad. Nid yw'r papurau yn Lloegr wedi cael eu hailraddio.

Hyd yn hyn nid yw Ofqual wedi ymateb.

'Ymddiheuriad diamod'

Ddydd Mawrth fe gafodd dros 2,300 o ddisgyblion yng Nghymru glywed bod eu graddau TGAU Saesneg wedi gwella.

Yn ei lythyr at Ofqual dywedodd Chris Tweedale, Cyfarwyddwr Gr诺p Ysgolion a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru, ei fod yn mynnu "ymddiheuriad diamod gan gadeirydd Ofqual erbyn diwedd prynhawn Gwener yr wythnos hon".

Mae'r llythyr hefyd yn gofyn i Ofqual dynnu'r sylwadau yn 么l, gan ddweud eu bod yn codi pryderon am safon "y mwyafrif" o raddau TGAU Cydbwyllgor Addyg Cymru (CBAC).

Dywedodd Mr Tweedale: "Dyw hyn ddim yn wir. TGAU Iaith Saesneg (a Saesneg) oedd yr unig TGAU yr oedd pryderon amdanynt.

'Mater pwysig'

"O ystyried canran uchel disgyblion Cymru sy'n sefyll arholiadau TGAU CBAC, mae hwn yn amlwg yn fater pwysig i ni, a byddwn yn gofyn am gadarnhad y byddwch yn cyhoeddi cywiriad i'r datganiadau yna erbyn diwedd ddydd Gwener."

Fe wnaeth 34,000 o ddisgyblion yng Nghymru sefyll y papur yn yr haf, ac ym mis Awst roedd y ganran a basiodd yr arholiad Saesneg gyda gradd A*-C yn 57.5% - llawer llai na'r 61.6% yn y flwyddyn flaenorol.

Yn dilyn yr ailraddio roedd y ffigwr wedi codi i 61.1%, sydd dal yn llai na'r llynedd.

Roedd Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, wedi beirniadu Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, oherwydd ei benderfyniad i orchymyn CBAC i ailraddio disgyblion Cymru.

Ddydd Gwener diwethaf fe ddechreuodd undebau athrawon ac ysgolion her gyfreithiol yn erbyn Ofqual am wrthod ailraddio papurau Saesneg yn Lloegr.