麻豆官网首页入口

Campws newydd 拢40m i Goleg Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Coleg Morgannwg, Campws NantgarwFfynhonnell y llun, Working Word PR
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adeilad wedi ei gynllunio at safonau amgylcheddol uchel

Bydd campws newydd i fyfyrwyr Coleg Morgannwg yn agor yn swyddogol heddiw yn Rhondda Cynon Taf.

Y safle yn Nantgarw, ar gost o 拢40 milwin, yw'r buddsoddiad mwyaf ym maes addysg bellach yng Nghymru.

'Amrwyiaeth o bynciau'

"Mae'r campws newydd yn garreg filltir bwysig yng Nghymru ac mae wedi trawsnewid y ddarpariaeth y gallwn ei gynnig i'n myfyrwyr," meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, Working Word PR
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'na amrywiaeth o gyfleoedd ar gael yn y coleg

"Ein bwriad yw gallu cynnig amrywiaeth a hyblygrwydd a fydd i fudd i'r myfyrwyr yn unigol."

Er mwyn cyd-fynd ag agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg 么l-16 mae'r coleg wedi llunio partneriaeth gydag Ysgol Gatholig y Cardinal Newman a Choleg Catholig Dewi Sant.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol