Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Campws newydd 拢40m i Goleg Morgannwg
Bydd campws newydd i fyfyrwyr Coleg Morgannwg yn agor yn swyddogol heddiw yn Rhondda Cynon Taf.
Y safle yn Nantgarw, ar gost o 拢40 milwin, yw'r buddsoddiad mwyaf ym maes addysg bellach yng Nghymru.
'Amrwyiaeth o bynciau'
"Mae'r campws newydd yn garreg filltir bwysig yng Nghymru ac mae wedi trawsnewid y ddarpariaeth y gallwn ei gynnig i'n myfyrwyr," meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg.
"Ein bwriad yw gallu cynnig amrywiaeth a hyblygrwydd a fydd i fudd i'r myfyrwyr yn unigol."
Er mwyn cyd-fynd ag agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg 么l-16 mae'r coleg wedi llunio partneriaeth gydag Ysgol Gatholig y Cardinal Newman a Choleg Catholig Dewi Sant.