拢60,000 i greu Amgueddfa Atgofion

Ffynhonnell y llun, James Farley

Disgrifiad o'r llun, Diben y cydweithio fydd cadw cofnod manwl o'r hen ffordd o fyw

Mae Menter Iaith wedi derbyn 拢59,800 tuag at gynllun Yr Amgueddfa Atgofion a fydd yn cynnwys 18 mis o weithgareddau yn ymwneud 芒 hanes ffermio a bywyd cefn gwlad mewn sir.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi dyfarnu'r arian i Fenter Iaith Sir Ddinbych.

Bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ar sut i gasglu atgofion a chadw lluniau ar gyfrifiaduron, gan gydweithio 芒 ffermwyr lleol - y rhai h欧n yn enwedig.

Mae'r Gymraeg a thafodiaith yr ardaloedd yn rhan annatod o'r cynllun.

Diben y cydweithio fydd cadw cofnod manwl o'r hen ffordd o fyw a defnyddio atgofion personol a hen luniau i greu archif o'r 1940au hyd at heddiw.

'Cyffrous'

Dywedodd Nerys Davies, Cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych: "Yr ydym fel menter yn falch iawn o glywed ein bod wedi derbyn grant mor sylweddol a fydd yn ein galluogi ni i ddatblygu prosiect cyffrous iawn, sef yr Amgueddfa Atgofion.

"Yr ydym fel holl fentrau iaith Cymru yn ddibynnol iawn ar grantiau; heb y nawdd ariannol yma, ni fyddai modd o gasglu a chadw tystiolaeth am gyfoeth treftadaeth amaethyddol y sir.

"Bydd yr arddangosfa yma ar gael nid yn unig i drigolion Sir Ddinbych, ond bydd modd i Gymru gyfan werthfawrogi cyfraniad trigolion Sir Ddinbych i fywyd amaethyddol Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol, Dinbych 2013.

"Edrychwn ymlaen at weld y prosiect yma yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf ".

Bydd lluniau ac atgofion yn cael eu casglu mewn cyfres o ddigwyddiadau fel yn ocsiwn Ffermwyr Rhuthun, Amgueddfa Llangollen, Oriel Corwen, stondin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Sioe Dinbych a Fflint ac yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013.

'Cyfoeth o wybodaeth'

Ychwanegodd David Shiel, uwch swyddog cefn gwlad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Menter Iaith Sir Ddinbych ar y prosiect cyffrous hwn.

"Mae cyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth o fywyd a thraddodiadau gwledig o fewn y gymuned amaethyddol yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a straeon difyr iawn i'w hadrodd.

"Mae'r gymuned ffermio wedi cynnal ein ffordd o fyw am genedlaethau, wedi darparu'r amrywiaeth o gynefinoedd sy'n gwneud ein cefn gwlad yn gymaint o hafan i fywyd gwyllt ac mor eithriadol o hardd. "