Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb ddrafft 拢15bn

Disgrifiad o'r llun, Y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, fydd yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
  • Awdur, John Stevenson
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae trafodaethau eisoes wedi cychwyn rhwng Llywodraeth Cymru a'r gwrthbleidiau ynghylch cynnwys y Gyllideb Ddrafft fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.

Pwrpas y trafod yw cael digon o bleidleisiau er mwyn i'r Llywodraeth ennill pleidlais ar y gyllideb yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae gan y Llywodraeth 拢15 biliwn i'w wario.

Gan mai 30 o seddau sydd gan Lafur yn y Cynulliad, mi fydd angen taro bargen gydag un o'r gwrthbleidiau. Y llynedd, cytunodd y Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi, er mwyn cael rhagor o arian i blant ysgol dan anfantais.

Bargeinio

Cadarnhaodd y gwrthbleidiau fod 'na drafod eisoes wedi cychwyn a bydd y bargeinio yn dechrau go iawn wedi i'r drafft gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae'r gyllideb am y flwyddyn 2013-2014, a hynny mewn cyfnod o doriadau mewn gwario cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl misoedd o drafodaethau cyn i'r gwrthbleidiau gefnogi'r gyllideb

Mewn arian go iawn yn hytrach na mewn ffigwr canran, mi fydd yr arian sy'n dod o goffrau Llywodraeth San Steffan yn crebachu o ychydig dros 拢15 biliwn i 拢14.95 biliwn.

Mae'r Ceidwadwyr eisoes am weld y Llywodraeth yn gwario mwy ar iechyd; Plaid Cymru am weld rhagor yn mynd ar yr economi tra bo'r Democratiaid Rhyddfrydol am weld mwy ym myd addysg.

Ond mae'r Llywodraeth dan bwysau oherwydd y bydd pob adran o'r llywodraeth - ac felly pob Gweinidog - am weld mwy yn cael ei wario yn eu cylch gwarchod nhw.

Mi fydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn gwneud Datganiad yn y Cynulliad Cenedlaethol prynhawn dydd Mawrth ac mae'r bleidlais derfynol yn debyg o ddigwydd yn ystod mis Rhagfyr.