Cynghorau Conwy ddim am uno adrannau

Ffynhonnell y llun, Nigel Brown

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y ddau gyngor eu bod yn ystyried ffyrdd eraill o gydweithio

Mae Cynghorau Siroedd Conwy a Dinbych yn rhoi'r gorau i uno'u hadrannau priffyrdd er mwyn arbed arian gan honni y byddai'n costio mwy i barhau 芒'r cynllun.

Mae'r ddau awdurdod eisoes yn rhannu rhai gwasanaethau, ond maen nhw'n dweud na fyddai'r cynllun hwn o fudd i'r trethdalwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am weld mwy o gynghorau'n cydweithio.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant, ei fod am gyfarfod 芒 swyddogion y ddau gyngor i gael gwybod pam nad yw'r cynllun yn mynd i ddigwydd.

Mae'r ddau gyngor yn rhannu pennaeth priffyrdd, a'r llynedd fe honnodd y cynghorau eu bod wedi arbed 拢300,000 drwy gydweithio ar y rhwydwaith briffyrdd.

Ymchwil

Ond maen nhw nawr yn dweud bod ymchwil wedi dangos y byddai'r gost o uno'r adrannau yn 拢750,000 dros dair blynedd o ran y dewis rhataf, gyda dewis arall yn costio dros 拢1.3 miliwn.

Roedd rhai hefyd yn darogan na fyddai'r newid yn cyflymu'r broses o drwsio priffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, sydd 芒 chyfrifoldeb am briffyrdd ar Gyngor Conwy: "Byddai uno'r ddau wasanaeth yn costio arian, ac ar hyn o bryd - o ystyried yr hinsawdd ariannoll sydd ohoni - dydi o ddim yn gwneud synnwyr.

"Fe fyddai'n costio mwy o arian i ni."

Ychwanegodd nad oedd y cynghorau'n dweud "na fydd hyn yn digwydd am byth", ond nad dyma'r amser iawn i wneud hynny.

Dywedodd y ddau awdurdod eu bod am ystyried ffyrdd llai amlwg o gydweithio.

Yn 么l y Cynghorydd David Smith, sydd 芒 chyfrifoldeb am y priffyrdd ar Gyngor Sir Ddinbych: "Dydyn ni ddim wedi priodi gyda Chonwy, ond rydym yn dal yn gyfeillion, yn dal i siarad gyda'n gilydd ac yn parhau i gydweithio ar rai pethau."

Pan benderfynnodd Cyngor Conwy yn ddiweddar i beidio rhannu Prif Weithredwr gyda Chyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar, dywedodd y gweinidog ei fod yn "siomedig iawn".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ail-strwythuro gwasanaethau yn rhan hanfodol o wneud arbedion mewn cyfnod pan mae arian yn brin.