麻豆官网首页入口

Pwy yw enillydd 拢6.4m?

  • Cyhoeddwyd
Loteri GenedlaetholFfynhonnell y llun, PA

Does neb wedi hawlio'r brif wobr o 拢6,392,398 yn y Loteri Genedlaethol ar Fedi 8 eleni.

Mae'r loteri wedi apelio eto wrth geisio dod o hyd i'r enillydd.

Cafodd y tocyn buddugol ei brynu yn ardal Gwynedd a M么n, gan lwyddo i ddewis y chwe rhif, 8, 15, 21, 26, 28 a 32.

Mae gan y person buddugol tan Fawrth 7, 2013 i hawlio'i wobr ac os na fydd rhywun yn ei hawlio, yna bydd yr arian yn mynd at achosion da'r Loteri Genedlaethol.

Anferth

Dywedodd llefarydd ar ran y loteri: "Rydym yn chwilio'n daer am y person 芒'r tocyn lwcus er mwyn rhoi eu harian iddyn nhw.

"Gallai'r wobr anhygoel wneud gwahaniaeth anferth i fywyd rhywun.

"Rydym yn annog pawb i wirio hen docynnau neu chwilio rhag ofn bod tocyn wedi mynd ar goll yn eu cartrefi.

"Chwiliwch mewn pocedi, bagiau a hyd yn oed i lawr cefn y soffa - gallai rhywun fod yn llythrennol yn eistedd ar ffortiwn."

Er mwyn procio'r cof, mae'r loteri yn atgoffa pobl o ddigwyddiadau eraill y diwrnod, sef y diwrnod olaf o rasio ar y trac yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain pan enillodd Oscar Pistorius fedal aur yn y 400m.

Dylai unrhyw un sy'n credu ei fod wedi ennill ffonio llinell arbennig y Loteri Genedlaethol, 0845 910 0000.